Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4.10 Effeithiau'r rhyngrwyd

Mae'r rhyngrwyd wedi newid y ffordd y mae gwerthwyr yn ystyried cymysgedd y farchnad oherwydd gellir cynnal y swyddogaethau hyrwyddol a lle bellach ar yr un pryd drwy wefan y cwmni (e.e. porth y rhyngrwyd sy'n gweithredu fel sianel hyrwyddo a dosbarthu). Mae lawrlwytho cerddoriaeth a ffilmiau yn ddigidol hefyd yn enghraifft dda o ddatgyfryngu (disintermediation), e.e. cyfuno sianelau hyrwyddo a dosbarthu.

Mae'n wir bod y defnydd o'r rhyngrwyd a datblygiadau o ran band eang wedi gwneud gwahaniaeth i fusnesau gwledig (er nad yw anawsterau â band eang wedi'u datrys yn llwyr o bell ffordd). Mae marchnadoedd mwy wedi agor i bob busnes: yn yr un modd ag y gallwch ddefnyddio'r rhyngrwyd i gyrraedd y tu hwnt i'ch marchnad leol, felly hefyd y gall cwsmeriaid gwledig bellach brynu'n hawdd o unrhyw leoliad yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae'n gleddyf deufin.

Felly, mae rhai agweddau ar 'le' wedi dod yn haws os ydych yn byw mewn amgylchedd gwledig. Gallwch gynnal gwefan bron yn unrhyw le. Mae twf cludwyr dosbarthu nwyddau i'r cartref yn sylweddol. Fodd bynnag, gall cost cael gafael ar y gwasanaethau hyn fod yn fwy o hyd os ydych yn byw yn bell o ganolfannau trefol, ac felly mae'n bwysig roi cyfrif am y costau hyn yn llawn.

Ceir llawer o gynhyrchion - er enghraifft cynhyrchion bwyd - y mae angen eu symud yn ffisegol o amgylch y wlad. Caiff cwmnïau bach eu herio'n aml gan yr angen i anfon nifer fach o nwyddau at gwsmeriaid os yw'r gost o'u hanfon mor afresymol. Mae llawer yn manteisio ar drefniadau dosbarthu sefydliadau mawr ond yn gorfod cyd-fynd â'u hamserlenni dosbarthu a'u gofynion hwy. Mae rhai yn cyfuno i weithio gyda'i gilydd yn gydweithredol er mwyn symud eu nwyddau o amgylch y wlad - beth bynnag fo'r ateb y deuir iddo, gall dosbarthu fod yn her sylweddol i lawer o fusnesau gwledig..