Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4.12 Rhwydweithio

Gall rhwydweithio fod yn elfen hynod bwysig o hyrwyddo i fusnes bach. Mae llawer o grwpiau rhwydweithio ar waith ledled y wlad - mae rhai yn cyfarfod am frecwast, mae gan rai aelodaeth gyfyngedig, mae rhai yn glybiau cinio, ac mae eraill yn cyfarfod yn gymdeithasol gyda'r nos. Bydd y rhwydweithiau mwyaf poblogaidd yn wahanol yn dibynnu ar yr hyn y maent yn ei gynrychioli mewn perthynas â'u cefndir gwaith.

Mae llawer o berchnogion busnesau bach yn neilltuo llawer iawn o amser at 'rwydweithio', er enghraifft ar Facebook a Twitter. Mae rhywfaint o hyn yn hanfodol, ond mae'n bwysig bod yn glir ynghylch yr hyn yr ydych yn gobeithio ei gael o rwydweithio a beth mae pob rhwydwaith yr ydych yn rhan ohono yn ei ddarparu i chi.

Mae gwaith llawer o fusnesau gwledig yn cynnwys cyfarfod â phobl, mewn ffordd rithwir neu wyneb yn wyneb, a all leddfu teimladau o unigedd. Gall rhai busnesau, yn enwedig y rhai sydd wedi'u lleoli yn y cartref, gynyddu'r teimladau o unigedd gwledig. Mae'n bwysig cydnabod bod cysylltu â phobl eraill, yn ffurfiol neu'n anffurfiol, yn bwysig.

Nid oes rhaid i rwydweithio fod yn rhywbeth sychlyd a chanolbwyntio ar fusnes yn llwyr. Yn aml llunnir cyfeillgarwch gwych drwy rwydweithio. Byddwch yn ymwybodol o'ch angen a chynlluniwch eich rhwydweithiau i'w ddiwallu. Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i rai cyfarfodydd rhwydweithio i ganfod pa ddull sydd orau i chi.

Felly er bod rhwydweithio wedi cael ei gynnwys fel elfen o hyrwyddo, mae'n diwallu anghenion ehangach o lawer na hynny. Dangosir hyn gydag enghraifft o Dde-orllewin Lloegr, The Cheese Gig.