3.4.13 Model archwilio rhwydwaith
Mae'r model archwilio rhwydwaith yn ymarferol iawn. Mae'n dechrau o'r man lle rydych ar hyn o bryd. Fe'i cynlluniwyd i helpu perchnogion busnes i edrych ar y rhwydweithiau a ddefnyddiant a sut y byddant yn diwallu anghenion eu busnes. Gall y dadansoddiad hwn arwain at rwydweithio mwy penodol gyda diben clir mewn golwg a/neu edrych am rwydweithiau newydd sy'n diwallu eich anghenion yn fwy effeithiol. Gallwch ddod yn rhan o'r model unrhyw bryd.
Cofnodir canlyniad y dadansoddiad hwn mewn tabl archwilio rhwydwaith. Mae hyn yn eich galluogi i weld ble mae'r bylchau yn y busnes neu'r anghenion personol y gellir eu diwallu drwy rwydweithiau. Mae'n eich galluogi chi i nodi a ddylech fynychu sawl rhwydwaith lle mae gan bob un yr un diben. Yna gallwch eu blaenoriaethu er mwyn gwella'r defnydd effeithiol ac effeithlon o'ch amser.
Grŵp Cynhyrchwyr Bwyd Blackdown Hills | SWIRE /WIRE | Every-woman | Menywod mewn Busnes Caerwysg | ‘Taste of the West’ | Siambr Fasnach Gwlad yr Haf | |
Bwyd - rhanbarthol neu genedlaethol | X | X | ||||
Hyfforddiant a gwybodaeth | X | X | X | X | X | |
Profiad a rennir | X | X | ||||
Cyd-gymorth | X | X | ||||
Ysbrydoliaeth | X | X | ||||
Hwyl a chyfeillgarwch | X | X | ||||
Gwerthiannau | X | X |
Troednodyn
Mae archwiliad rhwydwaith yn broses ailadroddol - mae angen i rwydwaith newid wrth i fusnes a pherchennog busnes ddatblygu. Mae'r model hwn yn sail dros adolygu mewn ffordd systematig. (© Ymgynghorwyr Rheoli KmG, 2007.)Tasg 21: Dadansoddi rhwydweithio
Gweithiwch drwy'r camau hyn er mwyn gwneud y gorau o'ch rhwydweithio:
- Rhestrwch yr holl bethau yr ydych yn gobeithio eu cyflawni drwy rwydweithio. Gall hyn gynnwys ennill busnes, magu hyder, manteisio ar hyfforddiant a gwybodaeth, cyfeillgarwch a chymorth. Nid oes atebion anghywir.
- Rhestrwch eich rhwydweithiau cyfredol. Cofiwch gynnwys eich rhwydweithiau cymdeithasol hefyd - ffrindiau a theulu - yn ogystal ag unrhyw gyfarfodydd busnes a fynychir gennych. Gall rhai rhwydweithiau fod yn rhithwir, yn enwedig gyda'r holl flogiau ac ystafelloedd sgwrsio ar-lein a rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein y gallwch fod yn rhan ohonynt.
- Cofnodwch y wybodaeth hon yn y Templed archwilio rhwydwaith [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Cofiwch ei adolygu er mwyn sicrhau bod eich rhwydweithiau yn unol ag amcanion eich busnes. Er enghraifft, nid oes diben mynd i grŵp mam a'i baban arall os ydych yn gwerthu ffyn cerdded!
- Adolygwch y tabl wedi'i gwblhau i weld a oes llawer o ddyblygu ac a oes unrhyw fylchau. A ydych yn cael yr holl bethau rydych am eu cael o rwydweithio? A ydych yn treulio amser ac yn gwario arian ar rwydweithiau sy'n dyblygu ei gilydd? Efallai y bydd yn rhaid i chi chwilio am rwydweithiau newydd i ddiwallu anghenion na chyfatebir ar hyn o bryd. Efallai y bydd yn rhaid i chi ganslo aelodaeth o rai rhwydweithiau eraill os ydynt yn dyblygu ei gilydd.