3.4.3 Prisio ar sail costau
Prisio ar sail costau yw'r dull sy'n canolbwyntio leiaf ar gwsmeriaid ac mae'n cynnwys dulliau cost-elw a chodi prisiau.
Mae cyfrifwyr a pheirianwyr yn aml yn ffafrio'r dull cost-elw gan ei fod yn hawdd ei ddefnyddio ac yn gwarantu bod y cwmni yn cyrraedd targed elw diffiniedig. Mae'r dull hwn yn gweithio drwy gyfrifo cyfanswm y costau cynhyrchu ac yna adio canran elw sefydlog er mwyn pennu'r pris. Yn anffodus, o dan y dull hwn, nid ystyrir sut y bydd y cwsmeriaid yn ymateb i'r pris a gyfrifir. Os nad yw'r pris yn darparu gwerth am arian ym marn y cwsmer, bydd hyn yn cael effaith negyddol ar werthiannau. Ar y llaw arall, os bydd y cwsmeriaid yn teimlo bod y pris yn darparu gwerth da iawn am arian, mae'n bosibl na fydd gan y cwmni ddigon o stoc i ateb y galw, gan alluogi cystadleuwyr newydd i ymuno â'r farchnad.
Mae'r dull codi prisiau yn debyg i'r dull cost-elw a dyma'r dull a ddefnyddir fwyaf gan fanwerthwyr gwasanaeth. Er enghraifft, bydd manwerthwr yn prynu stoc ac yn adio canran sefydlog at y pris prynu er mwyn pennu pris gwerthu'r cynnyrch. Mae'r dull hwn yn union yr un fath â'r dull cost-elw heblaw am ddwy ffactor. Yn gyntaf, bydd gan y manwerthwr entrepreneuraidd gysylltiad agos â'r cwsmeriaid ac felly gall ddatblygu syniad greddfol o'r pris y maent yn barod i'w dalu ac, yn ail, gall gael gwared ar stoc nad yw'n ei werthu drwy ostwng y pris yn ôl i'r pris prynu a'i werthu yn y sêls.