Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4.5 Prisio ar sail cystadleuaeth

Mae dulliau prisio ar sail cystadleuaeth yn cydnabod dylanwad cystadleuaeth yn y farchnad. Rhaid i'r entrepreneur benderfynu pa mor agos yw'r gystadleuaeth ato o ran diwallu anghenion defnyddwyr. Os yw'r gystadleuaeth yn agos, bydd angen i'r entrepreneur bennu prisiau tebyg i'r gystadleuaeth. Dyma'r strategaeth cwrdd â'r gystadleuaeth fel y'i gelwir, sy'n osgoi brwydrau prisiau niweidiol (na all busnesau bach a chanolig eu fforddio), ac felly'n cynnal proffidioldeb.

Ar y llaw arall, mae strategaeth gwerthu'n rhatach na'r gystadleuaeth wedi dod yn gyffredin iawn ymhlith manwerthwyr nad oes ganddynt fawr o reolaeth dros nodweddion na manteision cynnyrch na'r ffordd y caiff cynhyrchion eu hyrwyddo. Fodd bynnag, os byddwch yn defnyddio strategaeth gwerthu'n rhatach, y perygl yw y byddwch yn dechrau brwydrau prisiau nad yw'n beth doeth i gwmni bach â chyfran fach o'r farchnad ac adnoddau ariannol cyfyngedig. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Strategaethau prisio [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Pa bynnag strategaeth brisio sydd orau i chi, mae'n bwysig deall eich sail gostau a sicrhau eich bod yn cynnwys costau sylfaenol cynhyrchu'r cynnyrch neu ddarparu'r gwasanaeth. Dylid hefyd roi sylw i'r effaith a gaiff pris ar ddelwedd y cynnyrch neu'r gwasanaeth a phwysigrwydd ymateb i'r hyn a gynigir gan gystadleuwyr yn hytrach na cheisio cystadlu â hwy'n uniongyrchol (e.e. gall cystadlu ar sail gwasanaeth personol a threfniadau dosbarthu gwell fod yn fwy effeithiol na lleihau prisiau).

Yn olaf, os bydd y fenter newydd yn cystadlu ar sail pris yn unig, efallai na fydd yn gallu tyfu o gwbl oherwydd bydd maint yr elw yn rhy fach i'w ailfuddsoddi yn seilwaith y cwmni.

Tasg 19: Prisio

Gan ystyried beth rydych wedi'i ddarllen, pa ddull prisio sydd fwyaf priodol i'ch cynnyrch neu wasanaeth?

Nodwch eich syniadau a'r rhesymau pam.