3.4.6 Lle
Gall eich lleoliad fod yn ffactor allweddol wrth ddatblygu busnes gwledig. Er enghraifft, mae Cymru’n enwog am ei chynhwysion artisan o ansawdd uchel. Fodd bynnag, gall cludo'r cynhyrchion i'r farchnad fod yn anodd iawn, ac yn ddrud, sy'n esbonio pam bod y mathau hyn o gynhyrchion Cymreig yn aml yn costio mwy.
Mae lleoliad yn hollbwysig i fusnes twristiaeth ac mae'n aml yn ganolog i unrhyw neges marchnata. Mae lle'n bwysig. Er enghraifft, mae llawer o fusnesau twristiaeth nid yn unig yn dibynnu ar harddwch naturiol ond yn creu pecyn lleol sy'n pwysleisio eu natur leol drwy ddefnyddio cynhwysion lleol neu gynhyrchion traddodiadol. Gall y gwerth hwnnw a roddir ar le gael ei ddefnyddio hefyd i werthu'r cynhyrchion lleol hynny mewn marchnadoedd byd-eang, er enghraifft, cig oen o fryniau Cymru.
Ar gyfer busnesau seiliedig ar wybodaeth, fel busnes Gwenllian, efallai bod lle yn llai perthnasol. Os ydych yn dibynnu ar seilwaith, fel cysylltedd digidol, efallai eich bod yn teimlo nad yw lleoliad yn bwysig. Fodd bynnag, gall busnesau gwybodaeth bwysleisio lleoliad hefyd. Er enghraifft, os ydych yn we-ddylunydd, gallech bwysleisio i gwsmeriaid lleol eich bod chi gerllaw, a phwysleisio i ddarpar gwsmeriaid mewn ardaloedd gwledig eraill eich bod yn deall anghenion busnesau gwledig.