3.4.7 Dosbarthu
Mae lle, yn gyffredinol, yn cyfeirio at y system ddosbarthu sy'n cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i gwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys siopau ac archebu drwy'r post. Mae'r cysyniad o le hefyd yn cynnwys y mathau o gludiant a ddefnyddir, cyfleusterau storio a warysau, a'r defnydd o gyfanwerthwyr.
Bydd nifer y cyfryngwyr yn amrywio o ddiwydiant i ddiwydiant, ond bydd y pris terfynol i'r cwsmer yn uwch os bydd llawer o gyfryngwyr. Gall hyn olygu costau ychwanegol i fusnes gwledig oherwydd mae mwy o waith yn aml ac efallai y bydd mwy o bobl yn gysylltiedig â'r cynnyrch cyn iddo gyrraedd y cwsmer.
Yn aml iawn, y broblem sy'n wynebu cwmnïau bach newydd yw cael mynediad at sianeli dosbarthu (meddyliwch yn ôl i fodel pum grym Porter). Mae diffyg arbedion maint a'r pŵer bargeinio cysylltiedig, ac absenoldeb brand adnabyddus, yn cyfyngu'n ddifrifol ar eu pŵer o fewn y gadwyn gyflenwi.