Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Model trawsnewid

Mae pob sefydliad yn derbyn mewnbwn ac yn cymhwyso rhyw fath o broses drawsnewid sy'n arwain at allbwn hollol wahanol.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Figure 19 Proses Drawsnewid

Mewnbynnau

Tri math o fewnbwn y gellid eu trawsnewid yw:

  1. deunyddiau - y mewnbynnau ffisegol i'r broses
  2. gwybodaeth sy'n cael ei phrosesu neu ei defnyddio yn y broses
  3. cwsmeriaid - y bobl a drawsnewidir mewn rhyw ffordd.

Nid nwyddau ffisegol yn unig sy'n gorfod mynd drwy'r broses drawsnewid hon. Mae pob sefydliad sy'n cynhyrchu nwyddau neu wasanaethau yn trawsnewid adnoddau. Mae llawer yn ymwneud â thrawsnewid gwybodaeth (e.e. cyfrifwyr, cwmnïau ymgynghori) neu drawsnewid cwsmeriaid (e.e. siopau trin gwallt, ysbytai).

Mae dau fath o adnoddau a ddefnyddir i gyflawni'r broses drawsnewid:

  1. staff – y staff sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r broses drawsnewid neu sy'n ei chefnogi
  2. cyfleusterau - tir, adeiladau, peiriannau a chyfarpar.

Allbynnau

Mae llawer o brosesau trawsnewid yn cynnwys nwyddau a gwasanaethau. Nid yw rhai allbynnau yn ddymunol, e.e. cynhyrchion gwastraff, y mae'n rhaid ystyried eu heffaith amgylcheddol.

Rhaid ystyried effaith gymdeithasol y broses drawsnewid hefyd, yn lleol ac yn fyd-eang.