4.2 Transformation process
Mae'n hawdd gweld y trawsnewid mewn cynnyrch ffisegol, ond gall fod yn anoddach o ran gwybodaeth neu bobl.
Mae prosesau trawsnewid yn cynnwys:
- newidiadau yn nodweddion ffisegol deunyddiau neu gwsmeriaid (e.e. ffrwyth yn troi'n jam)
- newidiadau yn lleoliad deunyddiau, gwybodaeth neu gwsmeriaid (e.e. tacsi, gwasanaethau dosbarthu)
- newidiadau ym mherchenogaeth deunyddiau neu wybodaeth (e.e. manwerthu)
- storio neu gadw deunyddiau, gwybodaeth neu gwsmeriaid (e.e. gwasanaethau warysau)
- newidiadau yn niben neu ffurf y wybodaeth (e.e. cynnig amserlen ar-lein)
- newidiadau yng nghyflwr ffisiolegol neu seicolegol cwsmeriaid (e.e. rhywun sy'n rhoi gofal harddwch, rhywun sy'n trin gwallt, ysbyty neu feddyg).
Yn aml, caiff y tri math o fewnbwn (deunyddiau, gwybodaeth a chwsmeriaid) eu trawsnewid gan un sefydliad. Er enghraifft, mae tynnu arian o fanc yn cynnwys gwybodaeth am gyfrif y cwsmer, deunyddiau megis sieciau ac arian cyfred, a'r cwsmer.
Gellir categoreiddio'r math o drawsnewid fel a ganlyn:
- gweithgynhyrchu - creadigaeth ffisegol cynhyrchion
- cludiant - symud deunyddiau neu gwsmeriaid
- cyflenwi - newid ym mherchenogaeth nwyddau
- gwasanaeth - trin cwsmeriaid neu storio deunyddiau.
Fel arfer mae angen sawl proses drawsnewid wahanol er mwyn cynhyrchu nwydd neu wasanaeth. Gellir disgrifio'r broses drawsnewid gyffredinol fel y macro-weithrediad, a'r trawsnewidiadau manwl ynddo fel y micro-weithrediadau.
Tasg 24: Proses drawsnewid
Nodwch y prif adnoddau (mewnbynnau), y math o drawsnewid a'r prif allbynnau (nwyddau neu wasanaethau) ar gyfer pob un o'n cymeriadau yn yr astudiaeth achos. Cwblhewch y Tabl proses drawsnewid [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Gadael sylw
Dyma'r atebion:
Cymeriad | Mewnbynnau | Math o drawsnewid | Allbynnau |
---|---|---|---|
Euan | Haidd bragu, hopys, dŵr Gwaith teuluol (a gwaith ychwanegol o bosibl) ar fferm Cydberthynas â thrydydd parti, wrth lunio rhestr o gwsmeriaid drwy'r wefan, ac ati | Gweithgynhyrchu Cludo/Cyflenwi: Dosbarthu drwy archebu drwy'r post, safleoedd manwerthu sy'n gwerthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle Gwasanaeth: Os yw'n prynu'n lleol. | Cwrw Rhestr cwsmeriaid Gwastraff organig ar gyfer ailgylchu? |
Gwyneth | Ffrwythau, llysiau, siwgr, cyffeithyddion, cerbyd dosbarthu, stondin Cydberthynas â busnes/rheolwyr swyddfa.. | Gweithgynhyrchu Cyflenwi: gwerthiannau uniongyrchol a gwerthiannau i fanwerthwyr Gwasanaeth: mewn digwyddiadau bwyd lleol. | Jamiau, cyffeithyddion, siytnis. Rhestri o gwsmeriaid a stocwyr |
Julia | Cynhyrchion a gaiff eu cadw yn y siop, bwyd ffres a bwyd cwpwrdd storio, nwyddau haearn, papurau newydd Yn gwirfoddoli i weithio. | Cyflenwi Gwasanaeth | Gwerthiannau gyda digon o elw. |
Gwenllian | Gwybodaeth ieithyddol (Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg a Saesneg) Gwybodaeth am lunio cyrsiau iaith pwrpasol Cysylltiadau AD cwmni Cyfieithwyr arbenigol. | Cyflenwi: rhaglenni dysgu, gwasanaethau cyfieithu Gwasanaeth: i fusnesau lleol a rhanbarthol. | Cyrsiau iaith pwrpasol Episodau cyfieithu addasedig Deunyddiau iaith Tîm o arbenigwyr iaith Rhestr o gwmnïau lleol a rhanbarthol.. |
Dafydd | Gwybodaeth am (ynni) adnewyddadwy ac ailgylchu (dŵr) Gweithio mewn partneriaeth â'r sector hamdden a thwristiaeth. | Gweithgynhyrchu llety ecogyfeillgar Dosbarthu gwasanaethau i gwsmeriaid ar leoliad. | Gosod llety gwyliau |
David | Pren, offer, cyfarpar, cyfleusterau cludo. | Gweithgynhyrchu Cludiant Cyflenwi Gwasanaeth. | Grisiau Cynnyrch gwastraff wedi'i ailgylchu? |