Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Transformation process

Mae'n hawdd gweld y trawsnewid mewn cynnyrch ffisegol, ond gall fod yn anoddach o ran gwybodaeth neu bobl.

Mae prosesau trawsnewid yn cynnwys:

  • newidiadau yn nodweddion ffisegol deunyddiau neu gwsmeriaid (e.e. ffrwyth yn troi'n jam)
  • newidiadau yn lleoliad deunyddiau, gwybodaeth neu gwsmeriaid (e.e. tacsi, gwasanaethau dosbarthu)
  • newidiadau ym mherchenogaeth deunyddiau neu wybodaeth (e.e. manwerthu)
  • storio neu gadw deunyddiau, gwybodaeth neu gwsmeriaid (e.e. gwasanaethau warysau)
  • newidiadau yn niben neu ffurf y wybodaeth (e.e. cynnig amserlen ar-lein)
  • newidiadau yng nghyflwr ffisiolegol neu seicolegol cwsmeriaid (e.e. rhywun sy'n rhoi gofal harddwch, rhywun sy'n trin gwallt, ysbyty neu feddyg).

Yn aml, caiff y tri math o fewnbwn (deunyddiau, gwybodaeth a chwsmeriaid) eu trawsnewid gan un sefydliad. Er enghraifft, mae tynnu arian o fanc yn cynnwys gwybodaeth am gyfrif y cwsmer, deunyddiau megis sieciau ac arian cyfred, a'r cwsmer.

Gellir categoreiddio'r math o drawsnewid fel a ganlyn:

  • gweithgynhyrchu - creadigaeth ffisegol cynhyrchion
  • cludiant - symud deunyddiau neu gwsmeriaid
  • cyflenwi - newid ym mherchenogaeth nwyddau
  • gwasanaeth - trin cwsmeriaid neu storio deunyddiau.

Fel arfer mae angen sawl proses drawsnewid wahanol er mwyn cynhyrchu nwydd neu wasanaeth. Gellir disgrifio'r broses drawsnewid gyffredinol fel y macro-weithrediad, a'r trawsnewidiadau manwl ynddo fel y micro-weithrediadau.

Tasg 24: Proses drawsnewid

Nodwch y prif adnoddau (mewnbynnau), y math o drawsnewid a'r prif allbynnau (nwyddau neu wasanaethau) ar gyfer pob un o'n cymeriadau yn yr astudiaeth achos. Cwblhewch y Tabl proses drawsnewid [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Gadael sylw

Dyma'r atebion:

Tabl 7
CymeriadMewnbynnauMath o drawsnewidAllbynnau
Euan

Haidd bragu, hopys, dŵr

Gwaith teuluol (a gwaith ychwanegol o bosibl) ar fferm

Cydberthynas â thrydydd parti, wrth lunio rhestr o gwsmeriaid drwy'r wefan, ac ati

Gweithgynhyrchu

Cludo/Cyflenwi: Dosbarthu drwy archebu drwy'r post, safleoedd manwerthu sy'n gwerthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle

Gwasanaeth: Os yw'n prynu'n lleol.

Cwrw

Rhestr cwsmeriaid

Gwastraff organig ar gyfer ailgylchu?

Gwyneth

Ffrwythau, llysiau, siwgr, cyffeithyddion, cerbyd dosbarthu, stondin

Cydberthynas â busnes/rheolwyr swyddfa..

Gweithgynhyrchu

Cyflenwi: gwerthiannau uniongyrchol a gwerthiannau i fanwerthwyr

Gwasanaeth: mewn digwyddiadau bwyd lleol.

Jamiau, cyffeithyddion, siytnis.

Rhestri o gwsmeriaid a stocwyr

Julia

Cynhyrchion a gaiff eu cadw yn y siop, bwyd ffres a bwyd cwpwrdd storio, nwyddau haearn, papurau newydd

Yn gwirfoddoli i weithio.

Cyflenwi

Gwasanaeth

Gwerthiannau gyda digon o elw.
Gwenllian

Gwybodaeth ieithyddol (Cymraeg, Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg a Saesneg)

Gwybodaeth am lunio cyrsiau iaith pwrpasol

Cysylltiadau AD cwmni

Cyfieithwyr arbenigol.

Cyflenwi: rhaglenni dysgu, gwasanaethau cyfieithu

Gwasanaeth: i fusnesau lleol a rhanbarthol.

Cyrsiau iaith pwrpasol

Episodau cyfieithu addasedig

Deunyddiau iaith

Tîm o arbenigwyr iaith

Rhestr o gwmnïau lleol a rhanbarthol..

Dafydd

Gwybodaeth am (ynni) adnewyddadwy ac ailgylchu (dŵr)

Gweithio mewn partneriaeth â'r sector hamdden a thwristiaeth.

Gweithgynhyrchu llety ecogyfeillgar

Dosbarthu gwasanaethau i gwsmeriaid ar leoliad.

Gosod llety gwyliau

DavidPren, offer, cyfarpar, cyfleusterau cludo.

Gweithgynhyrchu

Cludiant

Cyflenwi

Gwasanaeth.

Grisiau

Cynnyrch gwastraff wedi'i ailgylchu?