Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3.1 Sgiliau pobl

Yn amlwg, mae'n bwysig ar gyfer eich llwyddiant yn y dyfodol i weithio gyda'r bobl gywir, sydd â'r galluoedd a'r sgiliau cywir. Fodd bynnag, mae'r ffocws yma yn symud o rôl ganolog y perchennog busnes newydd i anghenion y cwmni yn gyffredinol. Mae pobl, a'r sgiliau a ddatblygir ganddynt, yn hanfodol i lwyddiant unrhyw sefydliad (ni waeth pa mor fach ydyw).

Yn ogystal â deall y sgiliau a'r galluoedd sy'n ofynnol ar gyfer cynhyrchu, lansio a chynnal eich cynnyrch yn broffidiol, efallai y bydd angen i chi ddatblygu eich dealltwriaeth o'ch cryfderau a'ch gwendidau eich hun mewn perthynas â sgiliau technegol, gallu sefydliadol, dull rheoli a chraffter busnes. Os a phryd y byddwch yn creu cwmni newydd bydd angen i chi fynd i'r afael â'ch anghenion datblygu eich hun - drwy astudio'r uned hon rydych wedi sylweddoli bod angen i chi wneud hyn. Bydd angen i chi hefyd adolygu sgiliau eich staff/gwirfoddolwyr, neu'r rhwydwaith o bobl/busnesau rydych yn dibynnu arnynt, yn erbyn y nodau a osodwyd ar eu cyfer gennych yn eich cynlluniau. Fodd bynnag, am y tro gwnawn ganolbwyntio ar eich sgiliau a'r anghenion cysylltiedig sy'n ymwneud â'ch syniad fel y mae ar hyn o bryd.

Er mwyn troi syniad busnes yn realiti bydd angen i chi ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau ac adnoddau. Eisoes, bydd gennych rai o'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch, yn eich dealltwriaeth o'r byd a'ch maes. Gellir caffael eraill neu eu datblygu ymhellach, naill ai drwy eich dysgu eich hun neu drwy hurio'r bobl gywir, dros dro neu'n barhaol.

Mae'r cyfuniad o wybodaeth, sgiliau ac yn aml eich 'personoliaeth' chi a'ch staff/gwirfoddolwyr neu rwydwaith yn unigryw a gall ffurfio rhan o'ch mantais gystadleuol.

Yr ystyriaethau allweddol y mae'n rhaid eu hystyried wrth ddadansoddi eich anghenion o ran adnoddau dynol yw:

Dadansoddiad o anghenion swydd 

Rôl y swydd

  • Pa dasgau sy'n ofynnol i gynhyrchu'r cynnydd neu'r gwasanaeth?
  • Pa dasgau sy'n ofynnol i werthu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth?
  • Pa dasgau sy'n ofynnol i gefnogi'r staff cynhyrchu a gwerthu?
  • Pa rai o'r tasgau hyn y mae angen eu gwneud yn fewnol?

Diben y swydd

  • Sut mae'n cyfrannu at gynhyrchu'r cynnyrch yn llwyddiannus?
  • Sut mae'n cyfrannu at werthu'r cynnyrch yn llwyddiannus?
  • Sut mae'n cyfrannu at gyflawni nodau'r cwmni?

Swyddogaethau hanfodol

  • Pa dasgau allweddol sy'n rhan o'r swydd mewn gwirionedd?
  • A ydynt i gyd yn hanfodol?
  • Sut mae'r tasgau allweddol yn ymwneud â'i gilydd?
  • A oes trefn y mae'n rhaid ei dilyn i gyflawni'r tasgau?
  • Pa weithgareddau ffisegol sydd angen eu cyflawni?
  • A ellir rhannu'r gweithgareddau ymhlith nifer o bobl?
  • Faint o amser a dreulir ar bob tasg?
  • A yw'r tasgau yr un mor bwysig i gwblhau'r swydd yn llwyddiannus?
  • Beth sy'n digwydd os na chwblheir tasg?

Cymwysterau'r swydd

  • A oes angen cymwysterau ffurfiol?
  • A oes angen gwybodaeth arbenigol?
  • Pa sgiliau sy'n ofynnol?
  • Pa hyfforddiant sy'n ofynnol?
  • Pa brofiad blaenorol sy'n ofynnol?

Cyd-destun y swydd

  • Ble y gwneir y tasgau hanfodol?
  • Sut caiff y gwaith ei drefnu?
  • Beth yw'r amodau ffisegol?
  • Beth yw'r amodau cymdeithasol?
  • Sut y caiff y swydd ei goruchwylio?

Peidiwch â syrthio i'r fagl o fethu â dadansoddi'r holl waith rydych yn disgwyl ei wneud eich hun. Yn gyntaf, gallech fod mewn sefyllfa yn gyflym lle y byddech yn gwrthod y swydd ar unwaith pe bai'r swydd a wnewch yn cael ei hysbysebu gan gwmni arall! Yn anochel mae cyfnewidiadau yn ofynnol yn y byrdymor ond byddwch yn glir wrth nodi beth ydynt ac am faint o amser rydych yn barod iddynt barhau.

Yn ail, os methwch â rhoi cyfrif am yr holl waith rydych chi a'ch teulu yn ei wneud yn y busnes, mae perygl y byddwch yn methu elfennau hanfodol eich busnes.