Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3.3 Eich sail cyfalaf

Mae'r bobl rydych yn gweithio gyda hwy yn hanfodol, ond rhaid iddynt gael rhywle i weithio, rhaid sicrhau bod cyfarpar ar gael y gallant weithio gydag ef, bod deunyddiau ar gael i'w defnyddio a bod system ar gael i reoli'r llif gwaith a'r broses werthu a dosbarthu i gwsmeriaid yn y farchnad. Yr asedau ffisegol a'r contractau ar gyfer gwasanaethau, yn ogystal ag adnoddau dynol y cwmni , yw cyfanswm yr adnoddau sy'n galluogi'r cwmni i gynnal ei fusnes - cyfalaf y busnes. Mae'n cynnwys elfennau y gellir eu prisio yn nhermau arian, ond dim ond rhan ohono yw'r cyfrifon ariannol a'r arian parod mewn gwirionedd (er, yn achos arian parod, mae'n rhan hollbwysig ohono).

Bydd angen syniad clir arnoch nid yn unig o'r bobl sydd eu hangen arnoch ond dealltwriaeth dda hefyd o'ch gofynion cyfalaf. Bydd angen i chi sicrhau bod eich refeniw yn cwmpasu eich costau rhedeg a mwy, yn cyfrannu at eich costau cyfalaf, yn rhoi elw rhesymol i unrhyw fuddsoddwyr ac yn golygu y gallwch wneud bywoliaeth resymol. Yn wir, wrth ystyried y syniadau hyn rydych yn profi hyfywedd eich syniad.

Gofynion o ran adnoddau

Dyma rai o'r adnoddau pwysig y mae'n debygol y bydd eu hangen ar fusnes newydd:

  • pobl a sgiliau - gwneud y gwaith eich hun, rheoli cwsmeriaid a chyflenwyr, trefnu, ysgogi ac agwedd, uwchsgilio a hyfforddi, sgiliau iaith Cymraeg
  • cyfarpar a dodrefn - rhywbeth i'r bobl weithio arno, cyfrifiaduron/gliniaduron yn ogystal â desgiau
  • safleoedd - rhywle i'r bobl weithio
  • cyfathrebu - y ffordd o gyfnewid syniadau a gwybodaeth am y farchnad, ymweld, siarad, ysgrifennu, dosbarthu; y rhyngrwyd, band eang, sgiliau iaith Cymraeg
  • cyflenwyr - i ddarparu mewnbynnau na allwch eu gwneud na'u cynhyrchu eich hun
  • dosbarthwyr - i ddarparu gwasanaeth gwerthu a dosbarthu i gwsmeriaid na allwch ei wneud eich hun
  • amser - mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael tua'r un faint, ac eto mae rhai yn ei ddefnyddio'n well nag eraill
  • arian - i ariannu cyflogau, safleoedd, cyfarpar ac ati.

Yn dibynnu ar y math o sefydliad sydd fwyaf addas ar gyfer gwireddu eich syniad, mae'n debygol y bydd angen asedau diriaethol, ffisegol arnoch fel safle (hyd yn oed os mai desg yn rhywle ydyw), peiriannau (hyd yn oed os mai un cyfrifiadur personol neu ffôn ydyw) a, cherbydau efallai.

Mae'r asedau hyn yn cynrychioli'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer lansio eich syniad ond efallai y bydd hefyd yn cyfyngu ar eich gallu i ehangu neu ddatblygu, os ydych yn llwyddiannus. Maent hefyd yn dylanwadu ar botensial eich busnes i ddenu rhannau penodol o'r farchnad darged. Ar ôl i chi lansio, neu os oes gennych fusnes eisoes, dylech hefyd edrych ar oedran yr asedau, a'u disgwyliad oes, er mwyn amcangyfrif pryd y bydd angen rhai newydd yn eu lle.

Mae angen i chi ddechrau meddwl am eich syniad o ran y gweithrediadau a'r tasgau sydd eu hangen i'w droi yn gynnyrch y gellir ei gynnig i gwsmeriaid a'r adnoddau ffisegol a sefydliadol dilynol y bydd eu hangen arno yn ôl pob tebyg. Mewn geiriau eraill, bydd angen i chi ddechrau datblygu eich strategaeth ar gyfer mynd â'ch cynnyrch i'r farchnad (cyfeiriasom at hyn fel gweithredu 'ar' eich busnes yn 2.8 Beth yw strategaeth?).

Er nad yw'n ymddangos efallai bod gofod yn brin mewn ardaloedd gwledig, gall fod yn anodd dod o hyd i le addas i weithio yn aml. Mae llawer o gwmnïau newydd yn dechrau fel rhai bach, efallai heb safle sefydlog, mae rhai yn gweithio o gartref, neu efallai os yw'n wasanaeth symudol, gallai gael ei gynnal o gerbyd. Wrth ddechrau busnes mae'n gwneud synnwyr siŵr o fod i beidio â buddsoddi gormod yn y safle, neu o leiaf i ystyried yn ofalus ar gyfer beth y byddai angen safle arnoch.