Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3.4 Pa adnoddau?

Mae adnoddau allanol yr un peth i bob pwrpas: efallai y byddwch wedi cronni rhywfaint o arian ac wedi caffael rhywfaint o'r cyfarpar angenrheidiol eisoes.

Y cam cyntaf yw nodi'r hyn sydd ei angen arnoch. Yr ail gam yw nodi'r bylchau rhwng yr hyn sydd ei angen arnoch a'r hyn sydd gennych, a deall pam mae'n bwysig sicrhau yr ymdrinnir â hwy. Yn amlwg, os nad yw eich syniad yn hollol glir eto ac nad ydych eto wedi dechrau cynllunio na chymryd camau pendant tuag at weithredu eich syniad, bydd yn anodd bod yn fanwl gywir am hyn. Fodd bynnag, mae ceisio nodi'r tasgau sydd eu hangen a chael rhyw syniad o'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn i'ch syniad ddod yn gynnyrch neu'n wasanaeth llwyddiannus, arloesol yn ffordd ragorol o sicrhau'r eglurder rydych yn ei geisio.

Cofiwch gynnwys y pethau sydd eu hangen arnoch oherwydd lle rydych yn byw hefyd. A oes angen pobl a all ategu eich angen i ofalu am eich teulu? A oes pryderon am ddiogelwch teithio, ac ati? Gwnewch nodyn o unrhyw broblemau fel hyn, nid o reidrwydd yn y tabl ond er mwyn sicrhau eich bod yn delio â hwy wrth i chi ddatblygu eich cynllun.

Tasg 26: Gofynion o ran adnoddau

Gwnewch restr o'ch gofynion o ran adnoddau cyhyd ag y gallwch ar y cam hwn gan ddefnyddio'r Tabl gofynion o ran adnoddau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Peidiwch â phoeni os yw'n eithaf bras - gallwch ei ystyried eto yn nes ymlaen.

Os gallwch amcangyfrif gofynion ariannol pob adnodd yna gorau oll.