Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.4.1 Cylch gwerth menter estynedig

Gwnaethom ddechrau gyda blwch syml gyda thrawsnewidiad wedi ei ysgrifennu arno (yn Ffigur 19). Nawr gallwn ddechrau dwyn rhai o'r elfennau yr ydym wedi ymchwilio iddynt hyd yn hyn ynghyd yn un cylch gwerth menter estynedig.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 20 Cylchoedd gwerth menter estynedig

Gall y rhannau neu'r mewnbynnau sy'n dechrau'r cylch gwerth menter fod yn ddiriaethol, e.e. deunyddiau crai, adeiladau ac ati, neu'n anniriaethol, e.e. gwybodaeth neu brofiad am rywbeth ffisegol, fel cynnyrch, neu broses.

Mae'r broses yn defnyddio arferion penodol neu arfaethedig, a rhai amhenodol neu ddealledig wrth newid ffurf y mewnbynnau. Gall arferion dealledig fod yn arbennig o berthnasol a phwysig mewn busnes teuluol bach lle mae gan bob aelod o'r teulu ei swydd ei hun a wnânt heb feddwl neu yn sicr heb ei gofnodi o gwbl.

Mae elfen ddylunio'r broses yn ymwneud â'r nwyddau a'r gwasanaethau sy'n rhan o allbynnau'r broses drawsnewid. Maent yn adlewyrchu anghenion y cwsmer, yr ansawdd sy'n ofynnol ac yn y blaen.

Mae hyrwyddo yn cynnwys cyflwyno'r allbwn. Gallai hyn olygu pecynnu cynnyrch neu gyflwyno gwasanaeth. Mae'n cynnwys ymwybyddiaeth o weithgarwch cystadleuwyr, gan gynnwys pris a sianelau dosbarthu.

Y dosbarthiad ffisegol yw'r darn olaf yn y gadwyn ac mae'n arwain at werthu'r cynnyrch neu'r gwasanaeth. Ond nid dyna'r cyfan: mae hefyd yn cynnwys ymwybyddiaeth o'r safle yn y farchnad, tueddiadau o ran twf a dealltwriaeth o gwsmeriaid a'u defnyddwyr yn eu hymagwedd at brynu. Mae'r model hwn yn adeiladu ar y model trawsnewid mewnbynnau-allbynnau a ystyriwyd gennym yn gynharach yn yr adran hon.

Ychwanegir gwerth ar bob cam o'r cylch hwn ond dim ond ar y diwedd y caiff ei droi yn arian. Mae'n ddibynnol ar gael yr adnoddau priodol ar gyfer eich busnes a'r galluoedd sy'n eu troi yn gynnyrch neu'n wasanaeth y gellir ei ddarparu i'r farchnad mewn ffordd gystadleuol gynaliadwy.

Mae'r ffordd rydych yn caffael eich galluoedd a'ch sgiliau - boed yn staff llawn amser, rhan amser, dros dro neu lawrydd, neu drwy roi'r gwaith ar gontract allanol i gwmni arall - yn cael ei phennu gan pryd y mae angen galluoedd a sgiliau penodol arnoch neu am ba hyd y mae eu hangen arnoch. Er enghraifft, pe baech yn penderfynu bod angen sgiliau arnoch ym maes cynllunio ariannol a chodi arian ar gyfer y cyfnod lansio, ond dim ond am ychydig oriau bob wythnos, ni fyddai'n werth i chi gyflogi cyfrifydd llawn amser. Yn yr un modd, nid yw un sydd â'r ystod lawn o sgiliau sydd eu hangen yn debygol o fod ar gael ar gyfer swydd ran amser. Mewn achos o'r fath, byddai bron yn sicr yn well i chi ddefnyddio cyfrifydd mewn practis proffesiynol. Mae hefyd yn bwysig adolygu amseriad, maint, lefel ac amlder yr angen am bob un o'r sgiliau a nodwyd gennych, a phenderfynu sut y caiff pob un ei gyflwyno.

Wrth i chi benderfynu beth sydd ei angen arnoch, cadwch mewn cof bod gwerth yn cael ei ychwanegu at eich cynnyrch neu wasanaeth ar bob cam o'r broses hon. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn canolbwyntio ar y costau sy'n gysylltiedig â phob cam a hefyd ar werth cyffredinol y wybodaeth a gaffaelwch, ac ar y cynnyrch neu'r gwasanaeth a gynhyrchir gennych.