Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.4 Galluoedd

Mae galluoedd yn cyfeirio at y ffyrdd penodol y defnyddir eich adnoddau, hynny yw, sut y trefnir gwaith cynhyrchu a dosbarthu. Nid yw adnoddau yn gynhyrchiol ar eu pen eu hunain, ond yn y ffordd y cânt eu defnyddio ac yn eu rhyngweithio ag adnoddau eraill. Mae galluoedd yn diffinio sut y mae'r rhyngweithio neu'r cydweithredu hyn yn digwydd. Felly, gall cwmnïau wahaniaethu o ran yr adnoddau sy'n eiddo iddynt yn ogystal â'r ffordd y gwnânt ddefnydd ohonynt. Daw mantais gystadleuol o'r ddau. Mae galluoedd yn cyfeirio at allu sefydliadau i reoli mathau penodol o brosesau cyffredinol, megis prosesau dosbarthu neu weithgynhyrchu.

Cymwyseddau craidd

Cymwyseddau craidd yw galluoedd strategol pwysicaf cwmni. Maent yn gyfres o sgiliau gwahanol, asedau ategol ac arferion sy'n rhoi mantais gystadleuol i fusnes ac felly ei fantais fasnachol dros ei gystadleuwyr. Un enghraifft fyddai'r wybodaeth a'r sgiliau cyfunol sydd gan gyflogeion y busnes, h.y. gwybodaeth am brosesau, er enghraifft, a ddeellir ym mhob rhan o'r cwmni.

Mae Prahalad a Hamel (1990) yn gwahaniaethu strategaethau yn seiliedig ar gynhyrchion a'r rheini sy'n seiliedig ar eu cymwyseddau craidd eu hunain. Mae'r cyntaf yn canolbwyntio ar gynhyrchion terfynol, gan gadw golwg amddiffynnol ar y gweithlu. Mae'r olaf yn canolbwyntio yn lle hynny ar allu'r cwmni i ddatblygu'r galluoedd craidd a'r wybodaeth y gellir ei defnyddio ar draws cynhyrchion.

Mae Prahalad a Hamel yn awgrymu mai dim ond yn y byrdymor y bydd yr olwg gyntaf yn gweithredu, lle mae cystadleurwydd yn dibynnu ar bris a pherfformiad cynhyrchion cyfredol. Yn yr hirdymor bydd llwyddiant yn dibynnu ar y gallu i ddyfeisio cynhyrchion newydd ac addasu i farchnad newidiol.

Er mwyn dangos hyn, os edrychwn ar fusnes Gwenllian gallwn weld bod ei strategaeth ar sail gwybodaeth sy'n seiliedig ar gymwyseddau craidd yn ymwneud â'i harbenigeddau ieithyddol a phenodol i'r pwnc, yn ogystal â'i sgiliau wrth ddefnyddio'r technolegau cyfathrebu diweddaraf i gyflwyno'r dysgu. Gwybodaeth a sgiliau yw'r rhain sy'n anodd eu hatgynhyrchu ac a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i'w busnes. Fodd bynnag, bydd angen iddi sicrhau y cânt eu diweddaru'n gyson er mwyn cynnal y fantais hon.

Gall adnoddau ffisegol gael eu prynu, ond mae galluoedd yn cymryd amser i ddatblygu. Mae cymorth ar gael er mwyn eich helpu i ddatblygu eich cymwyseddau craidd, neu lenwi unrhyw fylchau a nodwyd gennych yn gynharach. Mae gan sefydliadau fel Busnes Cymru [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a Wales.com, yn ogystal â Chanolfan Gydweithredol Cymrunifer o raglenni cymorth a gallant hefyd fod yn ffynhonnell o wybodaeth bellach am hyfforddiant. Efallai y cewch gymorth arall yn lleol drwy goleg, prifysgol neu asiantaeth leol o bosibl sy'n cynnal digwyddiadau hyfforddi rheolaidd.

Tasg 27: Nodi cymhwysedd

Nodwch gymwyseddau craidd eich cwmni newydd. Beth sy'n hanfodol i hanfod y sefydliad?

Gwnewch nodyn o'r rhain.

Gadael sylw

Astudiaeth achos: Euan

Efallai y byddai Euan yn credu mai cymhwysedd craidd yw bod yn gyfarwydd â'r modd y mae fferm bioamrywiaeth yn gweithio. Ochr yn ochr â hyn, mae ganddo leoliad gwledig, mynediad i leoliad cynhyrchu addas a deunyddiau crai ar gyfer ei gyflenwadau. Er bod angen iddo ddysgu sgiliau bragu, mae ei allu i geisio, canfod a meithrin cydberthnasau â chwmnïau tebyg hefyd yn hanfodol i lwyddiant y busnes.

Astudiaeth achos: Gwyneth

Mae Gwyneth yn deall mai cymhwysedd craidd iddi hi yw cynhyrchu jamiau, cyffeithiau a siytnis lleol o ansawdd uchel. Rhaid iddi hi hefyd feithrin cydberthnasau da â'i chwsmeriaid er mwyn sicrhau y byddant am ailymweld â hi ar ei stondin neu edrych ymlaen at ei hymweliad safle fel uchafbwynt eu diwrnod gwaith!

Astudiaeth achos: Julia

Mae angen i Julia sicrhau bod ganddi hi a'i thîm o wirfoddolwyr gymwyseddau craidd arfer manwerthu a sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid y bydd eu hangen arnynt i redeg siop gymunedol.

Astudiaeth achos: Gwenllian

Mae Gwenllian yn cydnabod mai ei chymwyseddau craidd hi yw ei sgiliau iaith a'i gallu i ddefnyddio'r dechnoleg gyfathrebu ddiweddaraf er mwyn cadw costau yn isel a pharhau i ddarparu cynnyrch o ansawdd uchel mewn modd hyblyg.

Astudiaeth achos: Dafydd

Gŵyr Dafydd mai ei sgiliau craidd ef yw ffermio defaid, ei wybodaeth am ynni adnewyddadwy, a'i allu i gynnig profiad o rentu lle gwyliau unigryw ar fferm weithredol. Ei gymhwysedd craidd yw gallu cyfuno ei wybodaeth a'i sgiliau er budd eraill.

Astudiaeth achos: David

Mae gan David sgil graidd mewn gwaith coed, a'i gymhwysedd craidd yw creu darnau o ddodrefn pwrpasol, unigryw.