Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.5.1 Cwblhau dadansoddiad SWOT

Tasg 28: Dadansoddiad SWOT

Cynhaliwch ddadansoddiad SWOT ar gyfer eich busnes newydd. Gallech ddefnyddio'r templed SWOT [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   ond peidiwch â theimlo eich bod wedi eich cyfyngu ganddo.

Ceisiwch raddio eich datganiadau ym mhob chwarter. Pa rai sydd bwysicaf? Ceisiwch osgoi dweud 'pob un'. Ewch ati i'w deall yn iawn a gweithiwch allan pa rai sydd bwysicaf - pa rai sy'n eich rhoi chi ar y blaen i'r cystadleuwyr.

Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol neu drwy'r grŵp Facebook.

Gadael sylw

Roedd dadansoddiad SWOT Euan yn edrych yn debyg i hyn....

Astudiaeth achos: Euan

Cryfderau

  • Mae ei deulu yn berchen ar y fferm, felly nid oes unrhyw forgais na chostau rhentu ar gyfer y safle, felly mae'n dechrau o sefyllfa ariannol gadarn
  • Mae gan y teulu incwm cyson o wartheg eisoes
  • Rhwydweithiau cryf a chefnogol yn gymdeithasol
  • Mynediad at gynhwysion crai o ansawdd da (dŵr/haidd)

Gwendidau

  • Mae microfragdai eraill wedi'u lleoli ym mhob cwr o'r wlad (nad yw'n wendid o reidrwydd ar ôl sefydlu oherwydd mae'n golygu y bydd y bragdy yn unigryw, ond mae'n cyfyngu ar bosibiliadau mentora)
  • Efallai y bydd angen i staff medrus iawn (teulu yn bennaf), â sgiliau mewn un maes, arallgyfeirio.
  • Angen cael rhyw fath o hyfforddiant
  • Angen cael caniatâd cynllunio er mwyn newid y defnydd o'r eiddo presennol
  • Dim sgiliau dosbarthu
  • Gallai tywydd gwael neu anghyson ddifetha cnydau ar y fferm ac oddi wrth gyflenwyr eraill a allai gynyddu costau cyflenwi
  • Mae'r fferm yn brysur, efallai y bydd angen recriwtio staff.

Cyfleoedd

  • Diddordeb cynyddol gan ddefnyddwyr mewn cwrw o ficrofragdai
  • Mae cynnydd mewn siopa ar-lein yn lleihau anfanteision bodolaeth wledig
  • Y posibilrwydd, os yw'n llwyddiannus, o weithio gyda gwneuthurwyr diodydd crefftwrol eraill gan gynnwys bragdai a distyllfa leol fach i ddatblygu llwybr lleol, neu hyd yn oed 'llwybr cwrw iawn' i ddenu twristiaid i'r ardal.

Bygythiadau

  • Cynyddu nifer y microfragdai mewn lleoliadau gwledig
  • Mae defnyddwyr (yn enwedig twristiaid) yn oriog
  • Gweithgarwch cystadleuol parhaus gan weithgynhyrchwyr mwy o faint.

Bydd unrhyw un sy'n darllen eich dadansoddiad SWOT yn gallu creu darlun da o sefyllfa eich cwmni ar un adeg benodol.

Os awn un cam ymhellach ac edrych ar sut y mae'r holl ddatganiadau yn gweithio gyda'i gilydd, gallwn weld bod Euan wedi nodi un o'i gryfderau mawr (bod y teulu yn berchen ar adeiladau'r fferm) gyda gwendid (yr angen i newid y defnydd swyddogol o rai o'r adeiladau) Yn yr un modd mae ganddo deulu sy'n gefnogol ond y bydd angen eu hyfforddi efallai i weithio yn y maes incwm newydd, yn ogystal â'u baich gwaith cyfredol. Bydd hefyd yn edrych ar y ffordd o fyw y mae ef a'i deulu am ei byw yn ogystal â'r busnes. (A ydych yn cofio sut y gwelsom yn y cyflwyniad bod gan gwmnïau gwledig agwedd iach at gydbwysedd gwaith a bywyd!). Mae hyn yn aml yn broblem i gwmnïau teuluol, a rhaid i berchennog y busnes gydbwyso economeg hurio staff yn erbyn y risg o ddibynnu'n drwm ar y teulu. Fodd bynnag, mae hyn yn risg i unrhyw gwmni â niferoedd bach o staff. Gallai perchennog y busnes ystyried ysgrifennu i lawr y prosesau a ddilynir yn y busnes:

  • fel y gellir eu harchwilio a'u gwella
  • fel ei bod yn haws i rywun newydd ddilyn y prosesau a gwneud y gwaith.

Mae'n hollbwysig eich bod yn parhau i gyfeirio at y dadansoddiad SWOT wrth i chi ddatblygu eich strategaethau a'ch cynlluniau. Ar ôl ei gwblhau'n drylwyr bydd yn helpu i'ch hysbysu am gyfyngiadau o ran adnoddau (a gwargedion) ac yn helpu i nodi problemau y mae'n rhaid ymdrin â hwy cyn cychwyn ar ran nesaf eich strategaeth.

Astudiaeth achos: Gwyneth

Efallai y byddai Gwyneth wedi nodi bod ei char yn dod i ddiwedd ei fywyd defnyddiol (gwendid). Felly mae angen iddi ddatrys hynny cyn cychwyn ar gynllun i ehangu drwy ymgymryd â theithiau dosbarthu ymhellach i ffwrdd (cyfle) ynghyd â defnyddio car ystâd mwy o faint y teulu (y mae ei phartner yn ei ddefnyddio ar gyfer gwaith yn ystod yr wythnos) ar gyfer marchnadoedd ffermwyr ar benwythnosau.

Gallai fod yn bryderus am gwmni newydd sy'n ymsefydlu yn yr ardal (bygythiad). Gŵyr fod ei hadborth gan gwsmeriaid ar ei gwasanaeth a'i chynhyrchion yn wych (cryfder) felly gall ddechrau ystyried sut i feithrin teyrngarwch mewn perthynas â hynny er mwyn ei diogelu rhag y gystadleuaeth.

Yn fras, defnyddiwch eich cryfderau i'ch amddiffyn rhag bygythiad.

Defnyddiwch eich cryfderau i fanteisio ar y cyfleoedd gan eu bod yn rhoi mantais wirioneddol i chi.

Rhaid ymdrin â'ch gwendidau yn gyflym i'ch diogelu rhag unrhyw fygythiadau penodol, neu fe fyddwch o dan anfantais ddifrifol.

Ceisiwch osgoi cael eich temptio i fanteisio ar gyfleoedd pan rydych yn agored i wendidau. Rhowch drefn arnynt yn gyntaf.

Cofiwch, y diben yw ceisio sicrhau mantais gystadleuol i'ch cwmni a fydd yn gynaliadwy dros amser.

Mae Bruce Henderson (sylfaenydd y Boston Consulting Group) wedi dweud: ‘Eich cystadleuwyr mwyaf peryglus yw'r rhai sydd debycaf i chi. Y gwahaniaethau rhyngoch chi a'ch cystadleuwyr yw'r sail ar gyfer eich mantais.’ Mewn gwirionedd, daw'r manteision cystadleuol mwyaf llwyddiannus o gymysgedd o bethau. Mae'r ffordd y maent i gyd yn gweithio gyda'i gilydd yn gwneud y cyfanswm yn unigryw ac yn anodd iawn i gystadleuwr ei efelychu.

Tasg 29: Ailystyried y strategaeth

Ailystyriwch y strategaeth a ddyfeisiwyd gennych yn Nhasg 13 gan eich bod bellach wedi cwblhau eich SWOT. A oes unrhyw beth yr hoffech ei ddiwygio? A yw hyn yn cadarnhau eich meddyliau cynharach?