5.1 Ariannu eich busnes
Mae angen adnoddau ariannol ar bob busnes i weithredu. Fodd bynnag, mae angen mwy nag arian hefyd ar entrepreneuriaid; mae eu modelau busnes yn dibynnu ar fynediad i rwydweithiau, gwybodaeth a phobl. Nododd ymchwil
HSBC 'The business of recovery' (2009) fod y sectorau entrepreneuraidd a'r sector busnesau bach wedi canfod ffyrdd hyblyg newydd o weithio ac na fyddant yn dychwelyd i ffurfiau busnes mwy caeth a, gellir dadlau, mwy drud yn y dyfodol. Mae'r sectorau hyn yn defnyddio technoleg a chynghorwyr i greu rhwydweithiau cymdeithasol a chyfalaf dynol, yn ogystal â chyllid.
Ar adeg ysgrifennu (Haf 2013) mae pwysau ar y sector preifat ac yn enwedig y sector entrepreneuraidd a'r sector busnesau bach - fel 'asgwrn cefn' diwydiant y DU - i arwain yr economi allan o ddirwasgiad. Ochr yn ochr â hyn gwelwn hefyd y 'wladwriaeth yn crebachu', sy'n aml yn rhan sylweddol o'r economi wledig, a datblygiad modelau menter amgen megis mentrau'r trydydd sector a mentrau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae arian yn brin. Mae'r dirwasgiad a'r wasgfa gredyd yn golygu bod y rhain yn gyfnodau anodd o bosibl i ddiogelu cyllid o'r sector preifat. Mae toriadau'r llywodraeth yn golygu bod mwy o gystadleuaeth ar gyfer cyllid o'r sector cyhoeddus neu gontractau. Er mwyn gwireddu'r disgwyliadau mae angen i chi gael y cymorth, y cyllid a'r cyngor cywir.
Mae cael gafael ar gyllid yn aml yn rhwystr i fusnes. Er enghraifft, dengys ffigurau Ffederasiwn Busnesau Bach yr Alban ar gyfer chwarter cyntaf 2013, er i gredyd ddod yn rhatach ar ddechrau 2013, fod y duedd 12 mis ar gyfer nifer y ceisiadau llwyddiannus am gredyd wedi gostwng.
Mae arolwg amodau credyd rheolaidd [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] Banc Lloegr yn cwmpasu benthyciadau aelwydydd a busnesau bach. Gall ymweliad â'ch banc lleol, neu ofyn i bobl fusnes eraill ble y cawsant afael ar gyllid fod yr un mor ddefnyddiol.?