Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1.2 Cyllid nad yw'n gysylltiedig â banc

Un ymateb i'r anawsterau o ran cael gafael ar gyllid gan y sector bancio prif ffrwd yw'r twf mewn opsiynau cyllid nad ydynt yn gysylltiedig â banc Mae torfariannu yn ffynhonnell ariannu amgen newydd ar gyfer syniadau busnes, lle y ceir yr arian gan nifer fawr o unigolion y mae pob un ohonynt yn darparu swm bach drwy lwyfan ariannu ar y we. Gweler cyfeirlyfr y DU o lwyfannau torfariannu CrowdingIn [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] lle y gwelwch hefyd ganllaw cyflym i sut mae torfariannu yn gweithio.

Wrth godi arian mae'n bwysig ystyried yr hirdymor drwy'r amser. Mae llawer o fusnesau yn methu gan nad oes ganddynt ddigon o arian i ariannu materion yn ymwneud â llif arian parod a buddsoddi mewn twf.

Yn 4 Galluoedd ac adnoddau, edrychwyd ar ofynion cyfalaf eich cwmni newydd. Mae'r wybodaeth uchod yn amlinellu nifer o leoedd posibl y gallwch fynd iddynt er mwyn dod o hyd i'r arian i gefnogi'r broses o ddechrau busnes a thu hwnt.

Tasg 31: Eich ffynonellau ariannol

Rhestrwch y ffynonellau ariannol a allai weithio i chi. Rhowch hwy yn y drefn yr ydych am ymdrin â hwy. Efallai y bydd angen i chi ofyn am ragor o gyngor, er enghraifft gan y mathau o sefydliadau a amlygwyd gennym yn gynharach megis Busnes Cymru, Wales.com, Canolfan Gydweithredol Cymru neu eich awdurdod lleol.

Byddwch yn wyliadwrus am rai ffynonellau cyngor hefyd. Mae teulu, ffrindiau neu rwydweithiau newydd sy'n eich cefnogi yn ddefnyddiol, ond efallai na fyddant yn gymwys, yn meddu ar y wybodaeth gyfredol nac yn deall y busnes gystal â chi. Mae'r rheolwr banc yn gymwys i roi cyngor busnes, ac mae dod o hyd i gyfrifydd a gofyn am ei help gyda'r cyllid hefyd yn syniad da.