Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2.1 Llif arian parod

Mae'n hanfodol llunio llifau arian parod rhagamcanol treigl a chyfrifon elw a cholled - yn ddelfrydol gan ddefnyddio amcangyfrifon i edrych ymlaen chwe mis o leiaf. Dyma'r mesuriadau ar gyfer rheoli - hebddynt ni fyddwch yn gwybod beth yw eich dyfodol, a bydd yn anodd iawn i chi wneud cynlluniau. Drwy ddeall eich cyfrifon llif arian parod a'ch cyfrifon elw a cholled, bydd gennych fantais gystadleuol oherwydd byddwch yn gallu cynllunio i fanteisio i'r eithaf ar yr arian parod sydd ar gael a chreu elw er mwyn darparu ar gyfer ehangu yn y dyfodol a gwerthu gostyngiadau mewn prisiau.

Rydym yn mynd i edrych ar gyfrif llif arian parod a chyfrif elw a cholled er mwyn deall eu pwysigrwydd. Nid yw'r termau a ddefnyddir yn rhai cyfrifyddu, a thybir y bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn defnyddio cyfrifydd i lunio'r fantolen a'r cyfrifon blynyddol. Mae'r ffocws yma ar ddysgu sut i ddefnyddio llif arian parod ac elw a cholled fel dulliau rheoli - nid ar ddatblygu sgiliau rhywun sy'n cadw cyfrifon neu gyfrifydd.

Byddwn yn trafod sut i lunio tablau llif arian parod ac elw a cholled gan gyfeirio at astudiaeth achos yn seiliedig ar y cwmni ffuglennol Catterline. Byddwn hefyd yn ystyried pa mor werthfawr yw'r wybodaeth yn y tablau hyn i wneud penderfyniadau busnes effeithiol a sut y mae'n ffordd o fonitro iechyd eich menter newydd. Y cam cyntaf y bu'n rhaid i Hannah, rheolwr gyfarwyddwr Catterline, ei gymryd er mwyn bodloni ei rheolwr banc oedd llunio taenlen syml er mwyn gweld i ble yr aiff yr arian (cynhyrchwyd ym mis Mawrth ym Mlwyddyn 1).

Astudiaeth achos: Cefndir Catterline

Mae Catterline yn gwmni bach uwch-dechnoleg newydd ei sefydlu sy'n cyflogi pum person. Mae Catterline yn cynhyrchu synhwyrydd ar gyfer tanciau storio olew sy'n canfod achosion peryglus o nwy sydd wedi crynhoi mewn tanciau gwag neu bron yn wag. Er mwyn gweithgynhyrchu synwyryddion mae'n prynu bwrdd cylched a gynhyrchir yn unol â'i ddyluniad yn Tsieina a bwrdd trosglwyddydd radio a weithgynhyrchir yn unol â'i ddyluniad yn Ne Korea. Mae Catterline yn gosod y ddwy gydran hyn mewn bocs wedi'i selio gyda synhwyrydd gosodedig ynddo a gynhyrchir yn y Swistir, gan wifro’r holl gydrannau a rhaglennu'r sglodyn ar un o'r byrddau i union ofynion y cwmni olew a fydd yn prynu'r synwyryddion.

Hannah yw sylfaenydd y cwmni, y rheolwr gyfarwyddwr a dylunydd y synhwyrydd. Austin yw'r cyfarwyddwr gwerthu, ac mae wedi gweithio fel arbenigwr diogelwch i gwmni olew mawr. Ceir tri cyfosodwr lled-fedrus ac mae Hannah yn gwneud y gwaith rhaglennu terfynol. Mae Hannah wedi gweithio allan y costau am y 18 mis cyntaf. Mae Austin wedi cytuno ar gyflog o £4,000 y mis am y chwe mis cyntaf ac yna £4,000 ynghyd â phump y cant o'r gwerthiannau pan fydd y cwsmer yn talu am y nwyddau. Telir y costau meddiannaeth, sy'n cwmpasu trethi, rhent a thrydan, bob mis i'r landlord.

Ni fydd unrhyw werthiannau (na chyfosodwyr) am y pum mis cyntaf tra bod Austin yn cwblhau archebion ar gyfer eu hanfon ym mis Awst. Caiff yr archeb ei gosod ym mis Mawrth a bydd yn cymryd tri mis i weithgynhyrchu'r nwyddau. Gwnaethant archebu byrddau a bocsys ym mis Ionawr i ddosbarthu ym mis Mehefin er mwyn bodloni'r galw disgwyliedig. Pan symudwyd i'r safle ym mis Ionawr, roedd angen £20,000 arnynt o ran offer ac adnoddau. Rhaid i Hannah dalu am gydrannau ym mis Mai cyn iddynt gael eu hanfon. Bydd cwsmeriaid a gaiff nwyddau ym mis Awst yn talu amdanynt ym mis Medi; Tri deg diwrnod yw telerau Catterline.

Mae ymchwiliad rhagarweiniol gan Hannah ac Austin wedi sicrhau eu harcheb gyntaf. Byddent yn disgwyl gweld archeb debyg ym mis Tachwedd ym Mlwyddyn 1 i anfon y nwyddau fis yn ddiweddarach ac unwaith eto ym mis Mawrth a mis Ebrill ym Mlwyddyn 2 i'w hanfon fis yn ddiweddarach. Mae Hannah wedi buddsoddi £30,000 o'i harian ei hun yn y fenter gychwynnol, ac mae Austin wedi buddsoddi £20,000. Maent wedi cytuno ar derfyn benthyca o £150,000 gyda'r banc wedi ei warantu ar dŷ Hannah. Mae'r banc am weld cyfrifon elw a cholled a llifau arian parod am y 15 mis nesaf. Mae'r adran wedi'i lliwio yn nhaenlen llif arian parod [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   Catterline a ddarparwyd fel ffeil Excel yn dangos ffigurau hanesyddol, ac mae'r adran heb ei lliwio yn dangos ffigurau rhagamcanol.

Mae tabl llif arian parod Hannah yn anghyflawn o hyd oherwydd mae'n rhaid iddi gyfrifo'r balans arian parod cronnol hollbwysig namyn ei holl gostau sefydlog a newidiol. Mae tabl llif arian parod Catterline eisoes yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth ac yn rhoi rhyw awgrym o ba mor amrywiol y mae'r gweithgarwch busnes yn debygol o fod. Fodd bynnag, yr elw a wneir yw'r wybodaeth wirioneddol werthfawr, ac mae'n anghyflawn ar hyn o bryd.

Tasg 33: Rhagamcanu llif arian parod (dros 18 mis)

  1. Gorffennwch daenlen llif arian parod Catterline, sy'n amcanestyniad llif arian parod yn y bôn sy'n ystyried effeithiau gwerthiannau credyd.
  2. Rhestrwch y casgliadau y gallwch ddod iddynt.
  3. Cwblhewch eich amcanestyniad llif arian parod 18 mis eich hun.
  4. Rhestrwch y meysydd o bryder posibl.

Gadael sylw

Y darn pwysig cyntaf o wybodaeth sy'n dod i'r amlwg o'r data yn y tablau yw bod Hannah yn ystod misoedd Gorffennaf, Awst, Tachwedd a Rhagfyr ym Mlwyddyn 1 wedi bod yn beryglus o agos at ei therfyn benthyca banc. Pe bai rhywbeth yn mynd o'i le ar yr arian sy'n dod i mewn, gallai hi fod mewn trafferth. Ym misoedd Chwefror, Mawrth ac Ebrill ym Mlwyddyn 2 mae wedi mynd dros y terfyn yn sylweddol. Bydd angen iddi fonitro'r llif arian parod yn ofalus.

Yr ail bwynt pwysig sy'n dod i'r amlwg yw, cyn cwblhau ei chyfrif elw a cholled cyntaf, ei bod yn ymddangos bod ei llif arian parod yn dangos £50,150 ar y diwedd, sydd bron yn hafal i'r arian cychwynnol a fuddsoddwyd. Nid yw wedi cynhyrchu unrhyw arian parod ar hyn yn ôl pob tebyg erbyn diwedd y cyfnod. Mae'n ansicr iawn a yw wedi gwneud elw cyffredinol hyd at fis Mehefin ym Mlwyddyn 2. Bydd hi hefyd yn gorfod monitro ei rhagolygon o ran elw ac addasu ei gweithrediad er mwyn sicrhau elw - neu fel arall ni fydd y banc yn hapus.