Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2.2 Cyfrif elw a cholled

Er mwyn penderfynu a wnaed elw mae angen i ni lunio cyfrif elw a cholled. Mewn cyfrif llif arian parod, caiff arian sy'n dod i mewn ac allan ei gofnodi yn y mis pan fydd yr arian yn gadael neu'n cyrraedd. Mae gwahaniaeth hollbwysig o ran cyfrif elw a cholled. Caiff arian sy'n dod i mewn ac allan ei gofnodi pan gaiff ei anfonebu, nid pan ddaw'r arian parod i mewn (mewn geiriau eraill, pan eir i ddyled neu gredyd). Os oes gennych werthiant a gaiff ei ddosbarthu ym mis Ebrill gyda thaliad amdano ym mis Mai, mae'r cyfrif elw a cholled yn dangos y gwerthiant ym mis Ebrill, ond mae'r llif arian parod yn dangos yr arian yn cyrraedd ym mis Mai. Yn yr un modd, dangosir pryniant ar gyfer ei ddosbarthu ym mis Chwefror gyda thaliad amdano yn ddyledus ym mis Mawrth yn y cyfrif elw a cholled fel mis Chwefror, ac yn y llif arian parod fel mis Mawrth.

Astudiaeth achos: Cyfrif elw a cholled Catterline

Mae cyfrif elw a cholled yn ddull o ddangos yr hyn sy'n digwydd dros gyfnod o amser. Ni fydd Hannah yn gorfod llunio mantolen nes ei bod wedi masnachu am 12 mis ar ddechrau Blwyddyn 1. Mae mantolen yn dangos y sefyllfa ar un adeg benodol ac fe'i defnyddir i lunio adroddiad i i randdeiliaid, buddsoddwyr, partneriaid ac ati.

Cyfrifydd yw'r person gorau i lunio mantolen. Dylai cyfrifon llif arian parod ac elw a cholled gael eu paratoi bob mis gan y rheolwyr i'w helpu i reoli'r busnes. Mae'r banc yn codi 10 y cant bob blwyddyn ar Hannah ar ei therfyn credyd (y balans negyddol bob mis yn y llif arian parod) felly mae ei chyfrif elw a cholled yn edrych yn debyg i hyn: Taenlen llif arian parod wedi ei chwblhau [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]  a Taenlen elw a cholled.

Gan edrych ar ddiwedd y rhes elw a cholled cronnol, gallwn weld bod Hannah wedi gwneud colled o £3,749. Os adiwch y taliadau llog banc at ei gilydd gallwch weld y byddai wedi gwneud elw pe nai bai wedi bod yn cario terfyn credyd mawr. Bydd Hannah yn mynd y tu hwnt i'w therfyn credyd.

Mae'r banc yn annhebygol o gytuno ar hyn ar adeg sefydlu'r cwmni, yn enwedig pan fo benthyca yn mynd mor bell y tu hwnt i'r terfynau cytûn. Hefyd, mae'r gyfradd llog yn golygu bod Catterline wedi gwneud colled erbyn mis Mehefin ym Mlwyddyn 2 - wyth mis ar ôl sefydlu'r cwmni

Tasg 34: Sefyllfaoedd o ran elw a cholled

Gan ddefnyddio'r daenlen rydych newydd ei chwblhau ar gyfer Catterline, rhowch gynnig ar y sefyllfaoedd canlynol.

  1. Beth sy'n digwydd os rhannwn gyflenwadau Catterline yn ddau ddosbarthiad, fis ar wahân ar gyfer pob swmp, yn hytrach na'r un dosbarthiad presennol?
  2. Beth sy'n digwydd os gwnawn gyflenwi mewn dau swmp yn hytrach nag un ar ddiwedd y tri mis o weithgynhyrchu?
  3. Beth sy'n digwydd os newidiwn fanciau i un sy'n cynnig cyfradd o 7.5 y cant ar derfynau credyd?
  4. Sut y gallai Hannah gadw o fewn ei therfyn credyd a gwneud elw o fewn deunaw mis i sefydlu'r cwmni?

Defnyddiwch y daenlen i brofi eich cynigion.

Astudiaeth achos: Problem colled Catterline

Roedd yn ddefnyddiol iawn i Hannah ei bod hi wedi gwneud amcangyfrif o lif arian parod ac elw a cholled 18 mis. Mae bellach yn gallu gweld dwy broblem. Ym misoedd Chwefror, Mawrth ac Ebrill ym Mlwyddyn 2, mae wedi mynd y tu hwnt i'w therfynau benthyca. Wrth gwrs, un posibilrwydd yw cael y banc i gytuno ar y terfynau newydd sydd eu hangen sef £228,000. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn datrys y broblem colled.

Un ateb rhannol fyddai cyd-drafod â chyflenwyr y byrddau a'r ces. Ar hyn o bryd mae'n rhaid iddi dalu ymlaen llaw - efallai y gallai hi dalu amdanynt pan gânt eu dosbarthu? Pe gellid cytuno ar hyn, yna byddai'r llif arian parod yn edrych fel yr Amcangyfrif elw a cholled.

Mae hyn wedi helpu ychydig, er enghraifft, ym mis Mai mae'r terfyn credyd ond yn £9,500 o gymharu â'r £104,500 gwreiddiol, bydd hyn yn helpu gyda'r taliadau llog, ond nid yw'n mynd i'r afael â'r broblem mewn gwirionedd. Gallai wneud mân addasiadau pellach - er enghraifft, gallai Austin gytuno i'w fonws am y ddwy flynedd gyntaf gael ei dalu dri mis yn hwyr. Bydd hyn i gyd yn helpu ychydig a gall olygu y bydd yn gwneud elw bach ar ôl 18 mis. Fodd bynnag, bydd y terfyn credyd uchaf sy'n ofynnol dros £220,000 o hyd.

Rhaid i Hannah gymryd camau gweithredu cadarn: gallai cyd-drafod y posibilrwydd o gael terfyn credyd uwch gyda'r banc, gwerthu mwy o gynhyrchion, lleihau ei chostau neu gynyddu ei phris gwerthu i ddatrys y broblem hon.

Drwy gynnal yr amcangyfrif o lif arian parod ac elw a cholled mae Hannah wedi gallu dod i'r casgliad nad yw ei busnes yn broffidiol ar ôl 18 mis a bod angen cyfleusterau benthyca ychwanegol arni i ddarparu cyfanswm o £228,000 am ddau fis.

Mae defnyddio taenlenni i rag-gyfrifo llif arian parod ac elw a cholled yn hanfodol wrth sefydlu unrhyw fusnes. Hefyd, mae'r taenlenni yn caniatáu i chi wneud cyfrifiadau 'beth os' yn gyflym. Yn yr enghraifft uchod, gwnaethom gyfrifiad i weld 'beth os nad oes rhaid i ni dalu am gyflenwadau ymlaen llaw?' Hyd yn oed i rywun nad yw'n arbenigo mewn gwneud taenlenni, dylai'r cyfrifiad hwn gymryd llai na phum munud.