Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2.3 Amcangyfrif o elw a cholled

Tasg 35: Adolygu'r rhagolwg llif arian parod

Adolygwch y rhagolwg llif arian parod a gwblhawyd gennych ar gyfer eich syniad busnes yn gynharach yn yr adran hon.

  1. Cynhaliwyd ymarfer 'beth os' ar eich amcanestyniad llif arian parod drwy amrywio newidynnau allweddol.

    Os oeddech yn gallu nodi pryderon neu ansicrwydd, amrywiwch y rhain fel eu bod yn uwch ac yn is na'ch amcangyfrifon; os nad oes gennych unrhyw bryderon penodol, amrywiwch faint eich gwerthiannau tuag i lawr 20 y cant a nodwch yr effeithiau, yna cynyddwch eich prif gostau 20 y cant a nodwch yr effeithiau.

  2. Diwygiwch eich rhagolwg llif arian parod 20 y cant tuag i lawr i adlewyrchu rhagolwg mwy pesimistaidd a'i ail-greu ar ffurf amcanestyniad o elw a cholled dros 18 mis, gan sicrhau eich bod yn rhoi cyfrif am yr holl drafodion pan fydd yn debygol y byddwch yn mynd i ddyledion a chredydau yn hytrach na phan fydd yr arian parod yn mynd i mewn ac allan.
  3. Gan ddefnyddio eich amcanestyniad elw a cholled, amcangyfrifwch eich gofynion cyfalaf ar gyfer y 18 mis cyntaf ar ôl lansio'r busnes.

Cymerwch beth amser i ymarfer cyfrifiadau 'beth os' ar y taenlenni llif arian parod ac elw a cholled. Mae ymgyfarwyddo â'r broses hon yn hanfodol i'ch llwyddiant yn y cyfnod cyn cychwyn y busnes a'r cyfnod cyn ei lansio. Efallai yr hoffech hefyd edrych ar rai o'ch atebion chi. Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny gall fod yn fanteisiol i chi fuddsoddi mewn pecyn taenlenni syml.

Mae cadw cyfrifon misol cywir nid yn unig yn eich helpu i wybod beth yw sefyllfa eich busnes ond mae'n hanfodol hefyd wrth geisio codi arian a magu hyder yng ngallu eich busnes. Nid oes yn rhaid i'r cyfrifon fod yn gymhleth ar gyfer cychwyn busnes bach. Mae rhai busnesau yn dyfeisio eu taenlen eu hunain; mae rhai yn prynu taenlen syml gan eu cyfrifydd, a all gysylltu â system anfonebu, er bod llawer yn dechrau gyda gweithdrefn syml â llaw. Weithiau, ar ôl cwblhau cyfrifon syml am ychydig fisoedd, rydych yn sylweddoli bod pethau eraill ar gael y byddai'n ddefnyddiol i chi eu casglu hefyd.

Os yw cwblhau'r datganiad elw a cholled ar gyfer Catterline yn fwy nag yr ydych am ei wneud ar y cam hwn, yna ceisiwch weithio allan beth y gallai'r llinellau fod ar gyfer busnes bwyd Gwyneth.

Tasg 36: Elw a cholled

Cwblhewch y tabl yn Cofnodi elw a cholled [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , gan nodi pa wybodaeth y dylai Gwyneth ei chasglu/mesur yn eich barn chi yn rheolaidd bob mis wrth iddi ddechrau ei busnes.

Gadael sylw

Ein barn ni yw hyn - efallai ein bod wedi methu rhywbeth gan mai profiad o redeg y busnes yw'r ffordd orau o weithio allan beth sydd ei angen arnoch. Bydd sefydlu arferion syml ar y dechrau yn ddefnyddiol iawn wrth i chi dyfu a phrysuro mwy.

Tabl 8
IncwmGwariant
Gwerthiannau o bob marchnad a ffair fwydCynhwysion
Gwerthiannau uniongyrchol ar safle'r cwmniDeunyddiau pecynnu
Gwerthiannau corfforaetholLlithriant a chynhyrchion a ddifethwyd
Samplau am ddim a fersiynau maint prawfYswiriant - defnyddio car at ddibenion busnes
Prynu car a chostau gweithredu
Cyfarpar arlwyo a pharatoi
Biliau cartref uwch oherwydd cynhyrchiant
Deunydd ysgrifennu
Costau marchnata a hyrwyddo
Taliadau banc
Ffioedd ac yswiriant cyfrifwyr