Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.2 Cyfrifon hanfodol

Efallai eich bod yn gysurus iawn gyda ffigurau a'ch bod yn meddu ar y sgiliau i gwblhau'r cyfrifon misol eich hun. Ond efallai na fyddwch mor gysurus â'r ochr hon o'r busnes. Fodd bynnag, mae'n bwysig peidio ag osgoi'r ffigurau. Maent yn adrodd stori am ddatblygiad eich busnes. Maent yn dweud wrthych pa fentrau neu weithrediadau sy'n gweithio a pha rai sy'n methu.

Mae'n syniad da ymwneud yn bersonol â llunio'r rhagolwg llif arian parod a'r datganiad elw a cholled. Efallai y dewiswch gyflogi rhywun i gadw cyfrifon neu gyfrifydd i baratoi'r cyfrifon ar eich rhan, ond mae'n hollbwysig eich bod yn eu deall. Ni ellir dirprwyo'r cyfrifoldeb hwn.

Nid eich dysgu i fod yn gyfrifydd na sut i gadw eich llyfrau yw diben yr adran hon. Mae'r ffocws ar ddatblygu dealltwriaeth o sut i olrhain a defnyddio gwybodaeth ariannol wrth reoli eich busnes.

Byddwn yn edrych ar bedwar datganiad y bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â hwy a'u deall wrth redeg eich busnes, sy'n cynnwys:

  • cyfrifon llif arian parod
  • cyfrifon elw a cholled
  • y fantolen
  • datganiadau'r gyllideb

Mae angen pob un o'r datganiadau ariannol hyn ar unrhyw gwmni. Mae gan bob un ddiben gwahanol.

Tasg 32: Diffinio datganiadau ariannol

Parwch y diffiniadau gwahanol i'r datganiadau ariannol gwahanol.

Gan ddefnyddio'r ddwy restr ganlynol, parwch bob eitem sydd wedi'i rhifo â'r llythyren gywir.

  1. Cyfrifon llif arian parod

  2. Cyfrifon elw a cholled

  3. Mantolen

  4. Datganiadau'r gyllideb

  • a.Mae'r datganiad hwn yn adlewyrchu faint o arian parod a gaiff ei wario, neu sydd wedi cael ei wario (mae hefyd yn edrych ar pryd y caiff ei wario, neu y cafodd ei wario).

  • b.Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno ffigurau wedi'u targedu neu eu cynllunio yn erbyn canlyniadau gwirioneddol. Mae'n amlygu'r amrywiant rhwng ffigurau eleni a'r ffigurau a gyflawnwyd y llynedd neu rhwng yr hyn a gyflawnwyd mewn gwirionedd yn erbyn y ffigurau cynlluniedig.

  • c.Mae'r datganiad hwn yn dangos y ffynonellau ariannu sy'n dod i mewn i sefydliad a'r asedau sefydlog a chyfredol - yr adnoddau - y mae'n eu hariannu ar adeg benodol. (Gelwir hyn weithiau yn ddatganiad sefyllfa ariannol yn yr Unol Daleithiau.)

  • d.Mae ffocws y datganiad hwn ar y refeniw a gynhyrchir gan y cwmni a'r treuliau y mae'n mynd iddynt dros gyfnod o weithgarwch.

Yr atebion cywir yw:
  • 1 = a
  • 2 = d
  • 3 = c
  • 4 = b

Felly, gwyddom beth yw diben pob datganiad a byddwn yn eu hystyried ymhellach drwy ddefnyddio enghraifft o astudiaeth achos, Catterline, sef cwmni ffuglennol a seiliwyd ar fusnes gwirioneddol.

Mae'r adran hon yn dibynnu llawer ar y defnydd o daenlenni. (Os yw hon yn sgil nad ydych yn meddu arni eto, efallai y byddai'n werth buddsoddi mewn cwrs byr gan fod defnyddio taenlenni yn sgil ddefnyddiol iawn wrth redeg unrhyw fusnes.) Rydym yn sôn yma am Excel sef rhaglen taenlenni gyffredin. Fodd bynnag, mae dewisiadau amgen, fel Open Office [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yr un mor dda. Ewch drwy bob adran yn araf, cymerwch seibiant a dewch yn ôl at y gwaith wedyn, ond mae'n wirioneddol bwysig eich bod yn cwblhau'r adran hon os ydych yn mynd i lansio eich cwmni.