Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.3.2 Cyfrifo risg

Prin iawn yw'r gweithrediadau lle nad oes unrhyw risg o gwbl! Er mwyn bod yn llwyddiannus, rhaid i sefydliad asesu risgiau yn y dyfodol a naill ai paratoi ar eu cyfer neu weithio allan sut i'w hosgoi. Ar ôl eu nodi, gall effaith ariannol risg gael ei fesur drwy ddefnyddio cyfrifiad 'beth os'. Yn Nhasg 37, gwnaethoch gyfrifo'r hyn a fyddai'n digwydd pe bai arian cyfred yn dibrisio, gan achosi i gydrannau gostio 10 y cant yn fwy. Mae hyn wedi mesur y risg o ddibrisiant mewn arian cyfred. Gall Hannah edrych yn awr ar y gost hon a gweithio allan a ddylai brynu arian cyfred er mwyn diogelu costau ei chydrannau. Bydd y banc yn ei helpu gyda'r cyfrifiad, ac yn dyfynnu cost yr arian cyfred.

Tasg 39: Cyfrifo risg

  1. Faint o risgiau y mae Hannah yn eu hwynebu? Rhestrwch gymaint ag a gallwch.
  2. Nodwch y rhai sy'n debyg i'r rhai y teimlwch y gallech eu hwynebu.

Gadael sylw

Efallai eich bod wedi meddwl am:

  • dibrisiant mewn arian cyfred/amrywiadau mewn cyfraddau
  • cynnydd yng nghostau cludiant
  • cynnydd yng nghostau trydan
  • dirywiad yn y diwydiant olew sy'n arwain at lai o archebion
  • cynnydd mewn cyflogau cenedlaethol.

Mae llawer mwy siŵr o fod. Gellir amcangyfrif y rhain a gwneud cyfrifiad 'beth os' i weithio allan yr effaith. Pan fydd yr effaith yn hysbys, gellir asesu tebygolrwydd y risg a phenderfynu ar y camau i'w cymryd.