Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.3.3 Datganiadau'r gyllideb

Mae cyllideb yn gyfle i gymharu perfformiad yn y gorffennol â pherfformiad bwriadedig yn y gorffennol a rhoi amcangyfrif o berfformiad yn y dyfodol y gellir ei fonitro. Fel arfer rhoddir manylion am gyllideb yn fisol - fel arfer am flwyddyn ymlaen llaw o leiaf, gyda'r flwyddyn ddiwethaf fel cymhariaeth.

Defnyddir cyllideb i ateb dau gwestiwn.

  • Sut rydym wedi perfformio o gymharu â'n perfformiad disgwyliedig?
  • Sut rydym yn disgwyl perfformio yn y dyfodol?

Gall cyllideb gymryd sawl ffurf, ond (yn achos Hannah) lle y rhagamcenir llif arian parod am 12 mis, gall hyn ddod yn sail ar gyfer y gyllideb.

Yn ogystal â'r ffigurau ariannol yn y gyllideb, gall ystadegau eraill, megis allbynnau men unedau a throsiant staff, gael eu cynnwys fel rhagolwg a mesur o berfformiad yn y gorffennol. Gelwir y gwahaniaeth rhwng yr hyn a fwriadwyd a'r hyn a gyflawnwyd mewn gwirionedd yn amrywiant ac mae archwilio amrywiannau ynghyd â nodi eu hachosion yn ddull rheoli hanfodol. Mae amrywiannau yn dangos y ffordd i reolwyr gywiro camgymeriadau a all sicrhau bod y sefydliad yn parhau i fod ar y trywydd iawn i lwyddo.

Astudiaeth achos: Catterline - creu cyllideb

Drwy gymryd cyfrifiadau'r daenlen ymlaen i fis Mehefin ym Mlwyddyn 2, mae Hannah, i bob diben, yn creu cyllideb. Mae'n nodi beth fydd y refeniw a'r alldaliadau yn ei barn hi. Mae cyllideb yn galluogi Hannah i gynllunio ar gyfer ei dyfodol - yn enwedig os yw'n cynnal cyfrifiadau 'beth os' (gwneud y gyllideb yn 'hyblyg' i bob diben). Gall y gyllideb hefyd ei galluogi i farnu ei pherfformiad yn y gorffennol a nodi ble roedd y canlyniadau gwirioneddol yn wahanol i'r disgwyl ('amrywiannau'). Er mwyn i hyn ddigwydd mae angen diweddaru'r taenlenni llif arian parod ac elw a cholled gyda ffigurau gwirioneddol ar ddiwedd bob mis. Mae Hannah yn gwneud hyn ar ddiwedd mis Mehefin ym Mlwyddyn 1. Mae ei thaenlen elw a cholled yn edrych fel y Gyllideb elw a cholled [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   hon.

Mae Hannah yn argraffu ei thaenlenni llif arian parod ac elw a cholled bob mis ac yn eu cadw mewn ffolder. Gall gymharu'n hawdd yr hyn a oedd yn mynd i ddigwydd yn ei barn hi ym mis Mehefin â'r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Ceir amrywiant o ran costau'r cyfosodwyr a'r costau meddiannaeth. Mae hyn wedi cynyddu diffyg y llif arian parod £1,200. Mae ymchwiliad yn dangos bod cyfosodwr yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch a bod y gweddill wedi gorfod gweithio goramser er mwyn parhau i gynhyrchu'r nifer ofynnol. Ar gyfer y gwaith goramser, roedd angen trydan ychwanegol, a gynyddodd y costau meddiannaeth. Mae Hannah wedi nodi'r amrywiant yn ei chyllideb ac wedi canfod y rheswm, a gall nawr weld yn hawdd beth y gwnaeth y penderfyniad i weithio goramser ei gostio mewn gwirionedd i'r cwmni.

Tasg 40: Cyllideb ar gyfer taenlen fasnachu'r flwyddyn gyntaf

Adolygwch yr asesiadau a wnaethoch hyd yn hyn am eich anghenion o ran adnoddau. Gan ystyried eich cyfrif elw a cholled rhagamcanol, defnyddiwch eich taenlen i lunio cyllideb ar gyfer eich blwyddyn gyntaf o fasnachu a fydd yn eich galluogi i fonitro eich cynnydd.