5.3.4 Mantolen
Er nad ydym yn mynd i ymdrin â mantolenni yma yn fanwl - mae hynny'n rhywbeth y credir y dylai cyfrifydd ymdrin ag ef - bydd disgrifiad byr yn ddefnyddiol.
Mae mantolen yn mantoli neu'n cyfateb y ffynonellau cyllid â'r adnoddau a ariennir gan y ffynonellau cyllid hyn, ar un adeg benodol. Yr arfer yw paratoi un fantolen ar ddechrau cyfnod ariannol ac un arall ar y diwedd. Os yw gwerth net sefydliad yn cynyddu neu'n lleihau yn ystod y cyfnod hwnnw, caiff y gwahaniaeth ei esbonio yn ôl yr hyn y mae'r datganiadau llif arian parod ac elw a cholled yn ei ddweud wrthym am weithrediadau a chyllid yn ystod y flwyddyn. Felly mae'r fantolen, elw a cholled a llif arian parod i gyd yn gysylltiedig â'i gilydd.