6.1 Adolygu rhywfaint o gyngor ymarferol
Gan grynhoi'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu, gallwn lunio rai negeseuon allweddol:
- cael gweledigaeth strategol glir
- gosod amcanion penodol
- cynnal ymchwil i'r farchnad
- llunio cynllun syml - rhagweld tair blynedd ymlaen llaw
- dadansoddi cyfyngiadau o ran amser a chyfyngiadau personol - datrys unrhyw anghydfodau, e.e. plant, gwyliau, oriau gwaith, ardaloedd gweithio, salwch yn y teulu neu eich salwch chi
- ystyriwch yr unigedd gwledig - systemau cymorth, seilwaith gan gynnwys band eang ac ati materion diogelwch personol, teithio
- dod o hyd i rwydweithiau lleol - grwpiau, cyngor, cymorth, arian - beth sydd ar gael?
- gweithio gyda mentor neu gefnogwr os yw'n bosibl
- penderfynwch fynd amdani!
Rydych wedi ystyried yr holl elfennau hyn, weithiau ar ffurf ychydig yn wahanol, a chi sy'n penderfynu pa rannau o'r cyngor a roddwyd yma sy'n bwysig i chi.
Wrth i chi gwblhau'r AGCB, ystyriwch y materion hyn drosoch eich hun. Cofiwch fod yn rhaid i'ch nodau personol fod yn unol â'ch nodau busnes er mwyn i'r fenter newydd roi boddhad i chi.
Pob lwc!
Dywedwch wrthym am eich profiad o astudio'r cwrs hwn
Hoffem gael unrhyw adborth y gallwch ei roi i ni ar eich profiad o astudio'r cwrs hwn gan y bydd yn cyfrannu at ddatblygiadau'r cwrs yn y dyfodol ac yn helpu i wella'r profiad i fyfyrwyr newydd. Os oes gennych ychydig funudau i gwblhau ein ffurflen werthuso ar-lein byddem yn ddiolchgar iawn. Caiff unrhyw sylwadau a wnewch eu cadw'n gyfrinachol.
Ffurflen werthuso ar-lein [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]