1.1 Dyfodol cynaliadwy
Mae'r rheini sy'n canolbwyntio ar gynllunio dyfodol hefyd angen sicrhau bod cynaliadwyedd yn rhan annatod o'u dull gweithredu. Mae'r Prosiect Mileniwm, [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] melin drafod gyfranogol fyd-eang a sefydlwyd ym 1996, yn adnabod 15 Her Fyd-eang sy'n effeithio ar y dyfodol – gweler Ffigwr 2.
I'r rheini nad ydynt yn gyfarwydd â Nodau Datblygiad Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, byddwch yn gweld tebygrwydd rhwng yr heriau byd-eang hyn a nodau datblygiad cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a ddengys yn Ffigwr 3.

Yr her yw cydbwyso nodau byd-eang y Cenhedloedd Unedig ar gyfer datblygiad cynaliadwy gyda'r anghenion i sefydliadau esblygu, yn enwedig mewn perthynas â thrawsnewidiad digidol sydd, oherwydd arloesedd a datblygiad, yn ogystal ag effaith pandemig COVID-19, wedi cyflymu pethau'n sylweddol. Bydd hyn yn parhau i'w gwneud hi'n ofynnol i sefydliadau ddefnyddio technoleg a sicrhau bod ganddynt y gallu i'w defnyddio i'w llawn botensial. Mae'r erthygl '17 ways technology could change the world by 2025’, yn y World Economic Forum, a ysgrifennwyd fis Mehefin 2020, yn ystod pandemig COVID-19, yn rhoi cipolwg ar y dechnoleg a all fod angen i ni ei deall ac ymgysylltu â hi eisoes, a hynny yn ein bywydau personol a'n bywydau proffesiynol (World Economic Forum, 2020).
Mae buddion anfwriadol i'r amgylchedd yn ystod cyfnod clo pandemig COVID-19 'oherwydd cyfyngiadau ar deithio ac arafu'n sylweddol gweithgareddau cymdeithasol ac economaidd wedi arwain at wella ansawdd aer yn nifer o ddinasoedd gyda gostyngiad mewn llygredd dŵr yn sawl rhan o'r byd' (Rume ac Islam, 2020). Mae'r buddion hyn yn cilio'n gyflym wrth i ni deithio'n fwy rhydd unwaith eto, sy'n codi'r cwestiwn: sut all sefydliadau addasu, tynnu ar dystiolaeth ac ymchwil priodol i sicrhau bod targedau sero net yn cael eu cyflawni?
Mae gofyn drwy'r gyfraith i holl sefydliadau'r DU leihau eu hallyriadau carbon. Mae'r dull gweithredu hwn yn amrywio drwy gydol y DU. Gallwch archwilio'r rhain ar gyfer eich cenedl drwy'r dolenni isod:
- Cymru – Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff cyhoeddus yn unig) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Legislation.gov.uk, dim dyddiad)
- Lloegr – Climate Change Act 2008 (Legislation.gov.uk/cy, dim dyddiad) a 'Sustainability and climate change: a strategy for the education and children’s services systems’ (GOV.UK, 2022)
- Yr Alban – Climate Change (Emissions Reduction Targets) (Scotland) Act 2019 (Gov.SCOTLAND, dim dyddiad)
- Gogledd Iwerddon – Northern Ireland Climate Change Adaptation Programme (Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, dim dyddiad)