1.2 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Yn y DU, y ffordd fwyaf datblygedig o leihau allyriadau carbon yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, dim dyddiad). Ystyrir hwn yn ddull blaenllaw o ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol a mynd i'r afael â newid hinsawdd.
Y saith nod llesiant
Er mwyn sicrhau bod Cymru yn gweithio tuag at yr un diben a gweledigaeth, mae gan y Ddeddf saith nod llesiant y mae'n rhaid i bob corff cyhoeddus weithio tuag at eu cyflawni. Amlinellir y rhain yn Ffigwr 4 a chânt eu hegluro yn Nhabl 1.
![]() |
Cymru Lewyrchus Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas. |
![]() |
Cymru gydnerth Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid. |
![]() |
Cymru sy’n fwy cyfartal Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd). |
![]() |
Gymru Iachach Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol |
![]() |
Gymru o Gymunedau Cydlynys Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da. |
![]() |
Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden. |
![]() |
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. |
Mae gan y Ddeddf ffocws cryf ar sut fydd y nodau yn cael eu cyflawni drwy annog cyrff cyhoeddus a sefydliadau i ddefnyddio egwyddorion datblygiad cynaliadwy, sef hirdymor, atal, integreiddio, cydweithio, a chyfraniad, fel y dangosir yn Nhabl 2 isod.
![]() |
Hirdymor: Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd. |
![]() |
Integreiddio: Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff chyoeddus eraill. |
![]() |
Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu. |
![]() |
Cydweithio: Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant. |
![]() |
Atal: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion. |
Gweithgaredd 3 Meddwl am y posibiliadau ar gyfer sefydliadau addysg uwch
Yn y fideo isod, rhanna Scott Stonham, Dadansoddwr Technoleg Cynaliadwy Annibynnol ac awdur, y rôl y gallai sefydliadau addysg uwch ei chwarae yn y dyfodol.
Wrth i chi ddarllen y fideo, gwnewch nodyn o'r canlynol:
- cryfderau o fewn eich sefydliad
- meysydd sydd o ddiddordeb i chi
- sut allech chi wneud gwahaniaeth yn y dyfodol.

Transcript: Fideo 3 Sefydliadau addysg uwch ar gyfer y dyfodol
Adborth
Scott Stonham yw awdur yr adroddiad Jisc Exploring digital carbon footprints (Soneham, 2022), sy'n canolbwyntio ar y gost amgylcheddol gudd sydd ynghlwm â chwyldro digidol a'r camau y gall prifysgolion a cholegau eu cymryd. Mae rhwydd hynt i chi lawrlwytho a darllen yr adroddiad yn eich amser eich hun.