1.4 Tueddiadau gwaith y dyfodol
Mae nifer o sefydliadau addysg uwch yn myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o'r ffyrdd ymatebol o weithio yn ystod y pandemig a datblygu eu harferion gwaith a'u polisïau i fewnosod ffyrdd mwy cynhwysol a rhagweithiol o weithio. Mewn addysg uwch (AU), mae hyn wedi arwain at fwy o amgylcheddau gweithio hybrid a datblygu eu galluoedd i ymateb i drawsnewid digidol. Er bod angen i sefydliadau lywio a gweithredu ymhellach, gall nifer gymryd dull mwy myfyriol. Gallant gymryd amser i gynllunio ar gyfer yr hyn sydd ei angen yn y tymor byr a'r tymor hir a pharhau i fewnosod ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio.
Wrth i sefydliadau gynllunio ar gyfer y dyfodol, mae angen blaenoriaethu llesiant a disgwyliadau cyflogeion a phrofiad cyflogeion. Gan fod timau wedi'u gwasgaru fwy, efallai na fydd swyddogaethau uned draddodiadol yn briodol bellach ar gyfer y ffyrdd newydd hyn o weithio, felly mae angen datblygu strwythurau sefydliadol yn unol â'r newidiadau hyn.
Mae'r erthygl Gartner '9 Future of work trends post covid-19’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Turner a Baker, 2022) yn adnabod tueddiadau sydd â'r effaith fwyaf ar brofiad cyflogeion fel:
- Gweithio hybrid yn dod yn brif ffordd o weithio
- Prinder doniau allweddol
- Llesiant yn fesurydd allweddol
- Gallai canlyniadau amrywiaeth, ecwiti a chynhwysiant waethygu
- Bydd trosiant yn cynyddu
- Rolau rheolwyr yn newid
- Mae'r Genhedlaeth Z eisiau profiadau gwaith wyneb yn wyneb
- Mae wythnosau gwaith byrrach yn rhywbeth mae cyflogeion yn eu gwerthfawrogi bellach
- Mae casglu data yn ehangu
Efallai eich bod yn adnabod rhai o'r tueddiadau hyn yn eich sefydliad heddiw, ac eraill sydd ar y gorwel o bosibl. O ran adnabod yr angen i gynllunio ar gyfer gweithio hybrid, awgryma Turner a Baker (2022) nad ydych chi ar eich pen eich hunan – yn eu herthygl nodant y byddai bron i 39% o sefydliadau yn peryglu colli cyflogeion petaent yn dychwelyd yn llawn i'r trefniadau o weithio ar y safle. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2022), o blith yr holl gyflogeion a arolygwyd, mae 84% o weithwyr a weithiodd gartref yn ystod y pandemig yn bwriadu gwneud cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn eu safle gwaith yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae gwahaniaeth rhwng gweithio o bell mewn cyfnod o argyfwng byd-eang, lle mae unigolion a sefydliadau wedi gorfod addasu'n sydyn i weithio a dysgu gartref, a datblygu strategaeth hirdymor i gefnogi gweithwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill sy'n dewis gweithio gartref o leiaf peth o'r amser.
Golyga hyn, fel sefydliad, bod eich ymwybyddiaeth a'ch dealltwriaeth o ddisgwyliadau cyflogeion yn hollbwysig i reoli disgwyliadau ac am gynllunio effeithiol a datblygiad strategaeth. Clywn yn aml 'nad oes y fath beth ag un ateb i bob cwestiwn', ond ar gyfer sefydliad, y realiti yw bod rhaid i chi gael cydbwysedd er mwyn gweithredu'n effeithiol. Gall hyn ofyn am drawsnewidiad sylweddol. Yn erthygl McKinsey and Company 'Organizing for the future: Nine keys to becoming a future-ready company’ (De Smet et al., 2021), nodir bod angen ail-ddyfeisio, a chynigir y naw hanfod canlynol y bydd cwmnïau sy'n barod at y dyfodol yn meddu arnynt.
Gall y tueddiadau a'r hanfodion fod yn feysydd yr ydych chi eisoes yn eu hystyried, ond mae cyflawni strategaeth o'r fath yn gofyn mynd ar daith o ddeall pam eich bod eisiau ei wneud, i ystyried yr her o bob persbectif (o bersbectif sefydliadol, personol a chymdeithasol) i gynllunio'n ofalus a rheoli newid – a'r cwbl mewn cyd-destun o ansicrwydd parhaus.
Gweithgaredd 4 Beth fydd y tueddiadau a'r hanfodion hyn yn eu golygu i'ch sefydliad?
Cyfeiriwch yn ôl at yr erthygl Gartner '9 Future of Work Trends Post Covid-19’ (Tuner and Baker, 2022) a'r erthygl McKinsey 'Organizing for the future: Nine keys to becoming a future-ready company’ (De Smet et al., 2021).
Ystyriwch y tueddiadau a all effeithio ar brofiad cyflogeion, ac yna meddyliwch am yr hanfodion sefydliadol sydd eu hangen ar sefydliad sy'n barod at y dyfodol.
Yn eich barn chi, pa mor barod at y dyfodol yw eich sefydliad, a beth all fod angen i chi ganolbwyntio arno?