Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.5 Tueddiadau a risgiau byd-eang y dyfodol

Cawsom ein hatgoffa gan bandemig COVID-19 nad yw'r amgylchedd allanol yn rhywbeth y gallwn ei reoli. Er ein bod wedi addasu a dod o hyd i ddatrysiadau i fyw gyda COVID-19, mae gofyn i ni barhau i ddatblygu ymwybyddiaeth o'n hamgylchedd allanol a sicrhau bod gennym gynlluniau a strategaethau ar gyfer ymdrin â'r agweddau hysbys a'r agweddau anhysbys.

Nid yw'n realistig nac yn briodol cynllunio ar gyfer pob sefyllfa posibl, ond mae bod yn ymwybodol a chanolbwyntio ar y rheini sydd fwyaf tebygol o ddigwydd, neu o effeithio ar eich sefydliad, yn rhywbeth synhwyrol. Mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf o'r rhain yn feysydd yr ydych eisoes yn eu monitro drwy lwyfannau ffurfiol ac anffurfiol ac maent wedi'u mewnosod yng nghynlluniau eich sefydliad.

Mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig, Shaping the Trends of Our Time [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Cenhedloedd Unedig, 2020) yn adnabod y pum prif duedd ar lefel fyd-eang:

  1. Newid hinsawdd a diraddio amgylcheddol
  2. Tueddiadau demograffig a phoblogaeth yn heneiddio
  3. Trefoli cynaliadwy
  4. Technolegau digidol
  5. Anghydraddoldebau

Caiff y rhain eu hadlewyrchu yn yr un modd yn y Global Risks Report 2022 yn y World Economic Forum (World Economic Forum, 2022a). Mae'r adroddiad hwn a'r adnoddau ar y wefan yn rhoi cipolwg ar feysydd y mae angen i sefydliadau gael ymwybyddiaeth ohonynt a pha risgiau y gallant eu rheoli ac y gallant gyfrannu at leihau eu heffaith. Gall gwybodaeth o'r rhain atal canlyniadau negyddol yn eu sefydliad, ac yn allanol drwy gydweithio.

Mae'r ffigwr isod yn dangos y Gorwel Risgiau Byd-eang – pa bryd fydd y risgiau yn dod yn fygythiad critigol i'r byd. Efallai eich bod eisoes yn gyfarwydd â sawl un o'r rhain. Erbyn hyn mae gan y rhan fwyaf o sefydliadau dargedau sero net ac yn canolbwyntio ar seiberddiogelwch a galluoedd digidol, ac er bod iechyd meddwl a llesiant y rheini yn eich sefydliad wastad wedi bod yn bethau pwysig, maent wedi dod yn fwy o flaenoriaeth yn sgil COVID-19 a gweithio hybrid. Roedd dealltwriaeth fanylach o'n llesiant meddwl a chorfforol yn dechrau datblygu.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 8 Gorwel Risgiau Byd-eang (World Economic Forum, 2022a)

Gweithgaredd 5 Archwilio'r Global Risks Report 2022

Timing: 15 munud

Darllenwch y Global Risks Report a'r data ynghylch canfyddiadau risg byd-eang ar wefan y World Economic Forum.

1. Ystyriwch sut allwch chi, eich tîm a'ch sefydliad ymateb i'r effaith ar eich rhanddeiliaid yn sgil y risgiau tymor byr, tymor canolig a thymor hir mae'r World Economic Forum wedi'u hadnabod, a sut allwch chi helpu i liniaru eu heffaith. Gwnewch ychydig o nodiadau ynghylch hyn isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

2. Atebwch y cwestiwn canlynol yn yr adroddiad drwy bleidleisio yn y pôl isod.

Sut ydych chi'n teimlo am y rhagolwg ar gyfer y byd?

Active content not displayed. This content requires JavaScript to be enabled.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ateb

Mae'r Global Risk Report yn rhywbeth nad oes angen i nifer o bobl mewn sefydliadau ymgysylltu ag ef yn fanwl, ond efallai eich bod wedi gweld themâu a thueddiadau cyffelyb yr ydych yn canolbwyntio arnynt yn eich sefydliad.

Bydd eich ymateb i'r pôl yn seiliedig ar eich profiadau eich hun, beth sydd o ddiddordeb i chi/yn peri pryder i chi a sut ydych chi'n teimlo am ansicrwydd. A ydych chi wirioneddol yn poeni am y tueddiadau a adnabuwyd neu ai mân bryder ydynt?

Mae'r canlyniadau gan ymatebwyr fel rhan o'r adroddiad ar gyfer y cwestiwn hwn ar gael mewn dau le gan y World Economic Forum, un o fewn yr adroddiad a'r llall ar eu gwefan. Mae'n ddiddorol bod y rhain wedi'u harddangos yn wahanol yn y ddwy ddelwedd (ffigwr 9 isod) Cyflwynir un o'r chwith i'r dde, negyddol i gadarnhaol, a'r llall, o'r chwith i'r dde, yn ôl y canran uchaf i'r lleiaf.

A yw gweld y data mewn ffyrdd gwahanol yn newid eich ymateb o ran pa mor boenus/pryderus a all fod angen i chi fod?

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 9 Ffyrdd o gyflwyno data. Ffynhonnell: World Economic, Forum Global Risks Reports 2022

Yn ddiweddarach yn y cwrs, byddwn yn trafod sut i gyflwyno'n ystyrlon tystiolaeth a data i'ch rhanddeiliaid.

Er bod safbwyntiau gwahanol ynghylch tueddiadau'r dyfodol (ac mae rhai yn amlwg yn fwy tywyll nag eraill), rhaid deall mai posibilrwydd ydynt, ac efallai na fyddant yn digwydd, ac mae angen eu deall yng nghyd-destun eich sector, eich sefydliad neu'ch prosiect.

Mae cynllunio traddodiadol fel arfer yn dibynnu ar ffactorau'r gorffennol a ffactorau cyfredol, ond yn ôl gwefan Futures & Foresight OPSI yr OECD, mae dulliau Futures & Foresight yn 'croesawu ansicrwydd ac yn annog y gwaith o ddadansoddi ac ystyried ystod o bosibiliadau o ran y dyfodol er mwyn bod yn sail i benderfyniadau' (OECD, dim dyddiad). Awgrymant nad oes 'dyfodol absoliwt ond bod nifer o bosibiliadau o ddyfodol cymharol' a 'all fod ar sawl ffurf wahanol: wedi'u rhagweld, wedi'u rhagamcanu, dewisol, yn dibynnu ar lwybr, tebygol, credadwy a phosibl'.