Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.1 Rheoli disgwyliadau

Mae hefyd yn bwysig rheoli disgwyliadau, ac ymgymryd â dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar fodau dynol wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. Er y gall hyn deimlo fel her i gydbwyso anghenion y sefydliad ac anghenion unigolion a thimau, gall helpu i ddatblygu empathi mewn sefydliad, creu profiadau gwell, a datblygu gwytnwch mewn perthynas â newid, ac ymddiriedaeth ynddo. O ganlyniad, mae diwylliant y sefydliad yn magu hyder i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio, dysgu ac esblygu.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 10 Rhoi'r bobl yn gyntaf

Human-centred design is a creative approach to problem solving that starts with the needs of the user, emphasises the importance of diverse perspectives, and encourages solution-seeking among multiple actors. It consists of five phases: Empathize, Define, Ideate, Prototype and Test. What differentiates human-centred design from other problem-solving approaches is its focus on understanding the perspective of the person who experiences a problem most acutely.

(UNDP, dim dyddiad, Human-Centered Design)

Mae hyn yn cynnwys arsylwi, defnyddio empathi o archwilio'r broblem ymhellach, datgelu beth efallai nad yw'n amlwg i ddechrau, meddwl am syniadau, gyda gweithgareddau profi a dysgu er mwyn casglu adborth, cyn gweithredu datrysiad posibl.

Efallai eich bod wedi nodi wrth archwilio tueddiadau'r dyfodol bod disgwyliadau personol o weithio wedi newid, ar ôl gorfod addasu i amgylcheddau gwaith hybrid a byw drwy gyfnodau clo. Ar gyfer sefydliadau, mae hyn yn golygu bod rhaid iddynt ail-werthuso'r pethau mae cyflogeion yn eu gwerthfawrogi yn ogystal â phrofiad cyflogeion. Mae nifer o gyflogeion, y rhai sydd mewn sefyllfa i wneud hynny, wedi gadael sefydliadau nad ydynt yn cyd-fynd â'u gwerthoedd neu eu disgwyliadau, ac yn aml mae ymgeiswyr am swyddi mewn sefyllfa i fod yn fwy dewisol o ran dewis i weithio ar gyfer sefydliad.

Yn yr un modd, bydd gan y rheini o fewn sefydliadau y gofynnir iddynt addasu i ffyrdd newydd o weithio ddisgwyliadau efallai nad ydynt erbyn hyn yn cyd-fynd ag anghenion y busnes, yn enwedig os cawsant eu recriwtio mewn cyfnod clo. Yn ogystal, mae angen cefnogi'r effaith ar arweinwyr a rheolwyr gan fod y rheini sy'n gyfrifol am reoli eraill a gweithredu newid yn aml wrth wraidd rheoli disgwyliadau pob rhanddeiliad.

Rhaid ystyried pobl ym mhob gweithgarwch cynllunio ac fel cynlluniwr dyfodol, bydd angen i chi weithio gyda thimau perthnasol i sicrhau bod eich strategaeth yn adlewyrchu'r hyn sy'n bosibl yn eich sefydliad.