2.2 Cenhadaeth, gweledigaeth, gwerthoedd ac amcanion
Er mwyn i strategaethau fod yn llwyddiannus, rhaid iddynt fod wedi'u cefnogi gan eich cenhadaeth, eich gweledigaeth a'ch gwerthoedd, a sut mae'r amcanion ar draws y sefydliadau wedi'u gosod er mwyn sicrhau llwyddiant, ac felly mae angen ystyried a deall y rhain wrth gynllunio dyfodol.
Yn ôl Richard Whittington (Athro Rheolaeth Strategol, Ysgol Fusnes Saïd, Prifysgol Rhydychen) a'i gydweithwyr,
nod datganiad o genhadaeth yw rhoi eglurdeb i gyflogeion a rhanddeiliaid ynghylch beth mae'r sefydliad yn ceisio ei wneud yn y bôn. Ceir hyn fel arfer drwy ofyn am ddisgrifiad o'r hyn mae'r sefydliad yn ei wneud, yna parhewch i ofyn 'pam?' nes bod gwir genhadaeth y sefydliad yn datgelu ei hun.
Mae datganiad o weledigaeth yn ymwneud â'r dyfodol mae sefydliad yn ceisio ei greu. Fel arfer mae'n 'mynegi dyhead a fydd yn tanio brwdfrydedd, ennill ymrwymiad a gwella perfformiad'.
Mae datganiadau o werthoedd corfforaethol yn cyfathrebu'r prif 'egwyddorion' sy'n arwain strategaeth sefydliad ac yn diffinio'r ffordd mae'r sefydliad yn gweithio. Mae angen i'r gwerthoedd hyn fod yn barhaus, ni ddylent newid dan amgylchiadau gwahanol.
Mae amcanion yn ddatganiadau o ganlyniadau penodol sydd i'w cyflawni.
(Whittington et al., 2020, tt. 8-9)
Mae'r astudiaeth achos ganlynol yn eich caniatáu chi i archwilio sut mae cenhadaeth, gweledigaeth, gwerthoedd ac amcanion yn cysylltu, a sut y gellir eu cyflwyno ar gyfer pob rhanddeiliad.
Astudiaeth Achos: Prifysgol Bangor
Mae Strategaeth 2030 Prifysgol Bangor [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Prifysgol Bangor, dim dyddiad) yn cynnig enghraifft dda o'r datganiadau uchod:
EIN CENHADAETH: Prifysgol Gogledd Cymru ac ar gyfer Gogledd Cymru, sy'n cael ei harwain gan ymchwil ac yn meithrin effaith gadarnhaol ar gymdeithas yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
EIN GWELEDIGAETH: Prifysgol ac iddi gysylltiadau byd-eang, sy’n gwireddu cyfleoedd ar gyfer llwyddiant trwy ymchwil ac addysgu trawsnewidiol ac arloesol a sbardunir gan effaith, gyda ffocws ar gynaliadwyedd: diogelu'r amgylchedd, adfywio iechyd cymdeithas, a hyrwyddo ffyniant economaidd, cymdeithasol, dwyieithog, a diwylliannol.
EIN GWERTHOEDD A'N HEGWYDDORION: Mae chwech o werthoedd ac egwyddorion arweiniol. Dyma yw ein conglfeini diwylliannol, sy’n llywio ein penderfyniadau a’n dull o weithio gyda'n gilydd fel cymuned Prifysgol.
Uchelgais
Cawn ein hysbrydoli gan ein hanes a'n pobl i alluogi'r eithriadol. Rydym yn ddewr ac mae gennym uchelgais ar gyfer y brifysgol, ein cydweithwyr, a'n myfyrwyr, yn ogystal â chefnogi uchelgais ein partneriaid.
Cynwysoldeb
Rydym yn darparu mynediad cyfartal, hawliau cyfartal, a chyfiawnder cyfartal i bawb. Byddwn yn hyrwyddo parch at hawliau a rhyddid pobloedd amrywiol a'u syniadau, eu cefndiroedd a'u dulliau o geisio gwybodaeth a dealltwriaeth.
Uniondeb
Rydym yn gweithredu gyda gonestrwydd a thryloywder a byddwn yn ymdrechu i gydweithredu ym mhopeth a wnawn. Byddwn yn hwyluso twf deallusol trwy ryddid academaidd, mynegiant creadigol, cyfathrebu gwirionedd a gwybodaeth, a datblygiad cymdeithasol a moesol.
Parch
Rydym yn ymddiried, yn gwerthfawrogi, yn grymuso ac yn gofalu am ein gilydd, ac rydym yn atebol am yr hyn a wnawn. Fel cydweithredwyr byddwn yn ymatebol ac yn cyflawni mwy gyda'n gilydd. Byddwn yn meithrin cysylltiadau dinesig a chyfrifoldeb cymdeithasol sy'n cefnogi ac yn gwella addysg, ymchwil, dysgu gwasanaethol, diwylliant ac ansawdd bywyd ar y campws ac oddi allan iddo yn Gymraeg a Saesneg.
Cynaliadwyedd
Rydym yn angerddol am hyrwyddo diwylliant ac ysgolheictod o stiwardiaeth amgylcheddol, gan fyw mewn cytgord, a gofalu am y byd mewn ffyrdd sy'n diwallu ein hanghenion economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Byddwn, gyda’n hymchwil blaenllaw yn sylfaen i ni, yn cefnogi datblygiad Cymru fel gwlad ddwyieithog sy’n dysgu, lle ceir economi a sbardunir gan wybodaeth er budd y byd a chenedlaethau'r dyfodol.
Trawsnewid
Cawn ein sbarduno, fel lleoliad ymdrechion academaidd, arloesi a thrawsnewid, i helpu i gyfoethogi cymdeithas. Rydym wedi ymrwymo i ragoriaeth ar bob lefel o'r profiad addysgol a chreadigol a byddwn yn cefnogi pawb yng nghymuned y brifysgol i wireddu eu breuddwydion a chyflawni eu potensial.
Ac mae eu hamcanion (nodau) yn glir, a mesuradwy. Yn bwysicach, mae cydnabyddiaeth hefyd bod angen cadw 'peth hyblygrwydd er mwyn parhau'n berthnasol mewn amgylchedd gwleidyddol a gweithredol sy'n newid o hyd';
- Gwell perfformiad mewn tablau cynghrair uchel eu parch sy'n cyd-fynd â'n cenhadaeth, ein gweledigaeth a’n gwerthoedd
- Gwella cyflogaeth, canlyniadau creu swyddi a sgiliau graddedigion
- Ymchwil o ansawdd uchel ac ar raddfa fawr sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac yn cael ei ategu gan Ragoriaeth Byd-eang mewn Cynaliadwyedd
- Cynyddu ein cyfran o’r farchnad myfyrwyr
- Profiad myfyrwyr sy'n arwain y sector
- Gwell darpariaeth Gymraeg
- Cynaliadwy a gwydn yn ariannol
- Partneriaethau strategol ag addysg drydyddol ledled Gogledd Cymru
- Cyflwyno datblygiadau uchelgeisiol a thrawsnewidiol o ran isadeiledd digidol a’r campws
- Cynyddu ymchwil ac arloesi mewn gwyddorau bywyd, gan ddefnyddio Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd ryngbroffesiynol yng Ngogledd Cymru fel sylfaen i hynny
Nesaf, gweithiwch drwy'r gweithgaredd isod i ddysgu rhagor ynghylch diben uwch eich sefydliad.
Gweithgaredd 6 Beth yw cenhadaeth, gweledigaeth, gwerthoedd ac amcanion eich sefydliad?
A oes gan eich sefydliad ddatganiadau o genhadaeth, gweledigaeth, gwerthoedd ac amcanion? A allwch chi gael syniad go iawn ganddynt o beth yw 'Pam' eich sefydliad? Os nad, sut fyddech chi'n eu haddasu er mwyn tynnu ar ddiben uwch eich sefydliad, a'i egluro?
Nodwch eich safbwyntiau yn y blwch testun isod, ac yna darllenwch ein hadborth ar gyfer y gweithgaredd hwn.
Ateb
Datganiadau strategaeth Crynhowch strategaeth sefydliad mewn paragraff neu ddau. Yn ôl Whittington et al. (2020), dylai'r rhain fynd i'r afael â thri phrif thema:
- Y genhadaeth, gweledigaeth, gwerthoedd ac amcanion mae'r sefydliad yn eu ceisio (fel yr amlinellir uchod).
- Cwmpas neu barth gweithgareddau'r sefydliad (cwsmeriaid/cleientiaid maent yn eu gwasanaethu, lleoliad daearyddol, a graddfa 'integreiddiad fertigol', h.y. y gweithgareddau maent yn eu cyflawni eu hunain yn erbyn y gweithgareddau maent yn eu ceisio'n allanol neu'n eu his-gontractio).
- Y manteision neu'r galluoedd sydd ganddynt i gyflawni bob un o'r rhain.
Gall strategaethau weithio ar sawl lefel:
- Lefel corfforaethol: yn ymwneud ag agweddau ar gwmpas daearyddol, amrywiaeth o gynhyrchion/gwasanaethau, a sut caiff adnoddau eu neilltuo. Felly, o ran Addysg Uwch, gall hon fod yn brif strategaeth i'r brifysgol.
- Lefel busnes: yn ymwneud ag 'unedau busnes' a sut y dylent gystadlu yn eu marchnadoedd penodol – gallai hyn fod yn 'strategaeth cyfadran' neu 'strategaeth ymchwil'.
- Lefel swyddogaeth: yn ymwneud â sut mae cydrannau sefydliad yn cyflawni'r strategaethau ar lefel corfforaethol a busnes o ran adnoddau, prosesau, a phobl. Gallai hyn fod yn 'Strategaeth TG' neu 'Strategaeth Addysgu a Dysgu' wrth feddwl amdano mewn cyd-destun AU.
(Whittington et al., 2020)
Gellir hefyd datblygu strategaethau ar lefel prosiect (neu bersonol) – y cwmpas sy'n bwysig. Ar gyfer prosiect, yn yr un modd â strategaethau ar lefel busnes a swyddogaeth, po gryfaf yw'r cyswllt neu'r integreiddiad rhwng 'Pam' prosiect a'r lefelau uwch o strategaeth y bydd yn eu cefnogi, po fwyaf tebygol ydyw o ennill yr eiriolaeth, a'r adnoddau, sydd eu hangen arni i lwyddo.