Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.3 Cynllunio ar gyfer ffyrdd newydd o weithio

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl mewn sefydliad yn uniongyrchol ynghlwm â chreu strategaeth sefydliadol ond gallant fod ynghlwm â gweithgareddau ac amcanion â chanlyniadau penodol sy'n ofynnol er mwyn cyflawni diben sefydliad. Nawr eich bod wedi meddwl am bosibiliadau ar gyfer y dyfodol, wedi ennill dealltwriaeth o dueddiadau i fod yn ymwybodol ohonynt ac yn meddwl am strategaeth eich sefydliad eich hun, rydym am ganolbwyntio nawr ar ddatblygu'ch sgiliau ar gyfer cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Yn y cwrs hwn, byddwch yn edrych at sut mae mynd ati i gynllunio dyfodol ar gyfer eich sefydliad. Pan fyddwn yn meddwl am gynllunio dyfodol, weithiau gellir ymdrin ag ef drwy ofyn cwestiwn syml – Sut beth all y dyfodol fod?

Yn amlach na pheidio, byddwch yn awyddus i ddatrys problem benodol neu ganolbwyntio ar faes/pwnc lle mae angen strategol wedi'i adnabod.

Gan fod nifer o sefydliadau wedi trosglwyddo i weithio hybrid yn barhaol a ninnau'n byw gyda COVID-19, pwysig yw dysgu o'r daith o addasu yn sgil y pandemig a thynnu ar y profiad i helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol lle fydd trawsnewidiad digidol yn parhau, ac mae cynaliadwyedd yn dod yn fwy pwysig eto.

Gweithgaredd 7 Meddyliwch am broblem y mae angen i chi ei datrys

Timing: 15 munud

Treuliwch ychydig o amser yn myfyrio sut mae eich sefydliad wedi datblygu ac ymateb dros y rhai blynyddoedd diwethaf, a'r gwersi sydd wedi'u dysgu.

Yna, treuliwch amser yn adolygu beth mae eich sefydliad wedi'i wneud, neu'n ei wneud nawr, mewn perthynas â ffyrdd o weithio – a ydyw wedi mabwysiadu model hybrid? Beth yw ei gynlluniau o ran trawsnewid a chynaliadwyedd digidol?

Ystyriwch y cwestiynau canlynol, ac yna gwnewch ychydig nodiadau yn y blwch isod:

  • Pa mor agos ddylai'r rhaglenni cyflawni fod i'r strategaeth sefydliadol?
  • Sut fydd y rhaglenni hyn yn effeithio ar randdeiliaid (yn gadarnhaol neu'n negyddol)?
  • Pa alluoedd allwch chi dynnu arnynt yn eich sefydliad i sicrhau llwyddiant trefniadau gweithio hybrid neu drawsnewidiad digidol?
  • Sut allwch chi edrych ar y broblem drwy lens wahanol?

Yna, meddyliwch am broblem a all fod angen i'ch sefydliad ei datrys neu y mae eich sefydliad eisoes yn mynd i'r afael â hi, yr hoffech ei defnyddio a thynnu arni wrth i chi weithio drwy'r cwrs hwn, ac ystyriwch:

Pam bod angen datrys y broblem hon?

Os nad oes gennych broblem sydd angen ei datrys/mynd i'r afael â hi, yna beth am ystyried: Sut beth yw dyfodol eich sefydliad?

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Ateb

Wrth i chi wneud y gweithgaredd hwn, efallai eich bod wedi sylwi nad oes cyfeiriad penodol at weithio hybrid yn eich strategaeth sefydliadol, ond bod mentrau ar draws eich sefydliad sy'n canolbwyntio ar ofynion penodol ar gyfer gweithio hybrid. Gall hyn fod yn rhannol oherwydd pa mor aml mae strategaethau sefydliadol yn cael eu diweddaru, neu oherwydd bod nifer o'r gweithgareddau y mae angen cynllunio ar eu cyfer mewn gwirionedd yn berthnasol i strategaeth parhad busnes a gweithredol a thueddir i ymdrin â'r rheini ar lefel fwy gronynnog.

Mae'n debyg y bydd trawsnewid digidol a datblygu galluoedd digidol yn flaenoriaeth i'r rhan fwyaf o sefydliadau, gan fod effaith technoleg wedi bod yn flaenoriaeth a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth.