Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.2 Paratoi'r gweithdy

Pwy sydd angen cymryd rhan? Yn ddelfrydol, bydd gennych dîm amrywiol o gynrychiolwyr, a all fod yn fewnol neu'n allanol o'ch sefydliad – gallai hyn fod yn staff, cyflenwyr a myfyrwyr os ydych mewn addysg uwch?

Pwy fydd yn hwyluso'r gweithdy? Mae'n ddefnyddiol os yw hwn yn rhywun sy'n berchen ar y broblem er mwyn darparu cyd-destun ac arweiniad. Yr hwylusydd sy'n rheoli'r gweithdy ac yn sicrhau bod cyfranogwyr yn parhau i ganolbwyntio ac ar y trywydd cywir. Yn ôl Sinek, yr 'unigolyn delfrydol ar gyfer y rôl hon yw rhywun y mae'r sefydliad yn ymddiried ynddo sydd ag awydd i wasanaethu, chwilfrydedd naturiol cryf a'r gallu i ofyn cwestiynau ymchwilgar.' (Sinek et al., 2017, t.165)

Yn dibynnu ar eich cyfranogwyr, penderfynwch ar yr amgylchedd mwyaf priodol ar gyfer eich gweithdy – o bell, hybrid neu wyneb yn wyneb. Pa adnoddau fydd eu hangen arnoch ac ai adnoddau ffisegol neu ar-lein, neu gyfuniad, ydynt, e.e.

  • byrddau gwyn
  • papurau bach gludiog
  • ystafelloedd trafod
  • poliau
  • tynnu 'darluniau cyfoethog' (os ydych yn anghyfarwydd â darluniau cyfoethog a hoffech drosolwg cryno ohonynt, mae tiwtorialau fideo ar gael i chi fel rhan o adnodd Rich Pictures [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ar OpenLearn).

Yn dibynnu ar faint eich grŵp, efallai yr hoffech roi cyfranogwyr mewn is-grwpiau ar gyfer rhai gweithgareddau ar bob cam a chaniatáu amser i ddychwelyd fel grŵp i drafod y canlyniadau. Wrth ffurfio is-grwpiau, ystyriwch amrywiaeth y grwpiau i sicrhau bod ystod o leisiau i'w clywed.

  • diben a ffocws y gweithdy
  • y Cylch Euraidd, ac eglurwch mai'r pwrpas yw meddwl am eu cwestiynau 'Pam', 'Sut' a 'Beth'
  • efallai yr hoffech iddynt feddwl amdanynt.

Gellir gwneud hyn mewn e-bost gyda'r agenda, ychydig o sleidiau, fideo yn egluro'r hyn y gallant ei ddisgwyl, neu ddull arall o'ch dewis. Gweler isod templed awgrymedig y gallwch dynnu arno.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 13 Sleid enghreifftiol i gyflwyno'r ‘Golden Circle’.