Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Yn ystod y gweithdy

Synhwyrol ar ddechrau'r gweithdy yw mynd drwy'r rhestr wirio isod, i helpu i sefydlu disgwyliadau ac egluro'r canlyniadau yr ydych chi'n gobeithio eu cyflawni.

  • Trosolwg o'r hyn i'w ddisgwyl, yn dibynnu ar y diben.
  • Y cyd-destun ar gyfer y gweithdy
  • Y canlyniad bwriadedig ar gyfer y gweithdy
  • Paratowch i wrando'n weithredol – rhowch drosolwg o beth mae hyn yn ei olygu yn eich cyd-destun
  • Paratoi – a oes angen iddynt wybod sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein?
  • Ystyriaethau hygyrchedd a chynwysoldeb
  • Gwybodaeth cadw trefn yn y gweithdy.

Gan ei bod yn bosibl nad yw cyfranogwyr yn gyfarwydd â'r broses tri cham 'Beth yw eich 'Pam'?' yn Ffigwr 12 (wedi'i ailadrodd), arweiniwch nhw drwy'r camau a'r hyn y dylent ei ddisgwyl (eglurir y rhain yn fanwl yn yr adrannau nesaf).

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 12 (wedi'i ailadrodd) Beth yw eich 'Pam?' – proses tri cham

Dylid strwythuro pob cam mewn dwy ran Darganfod ac Adrodd (ailadrodd fel y dywed Sinek). Nid yw'r gweithdai yn ymwneud â chytuno ar 'Sut' a 'Pam', dylid gwneud hyn mewn ffordd arall sy'n briodol i'ch gofynion.

Cofiwch, eich allbwn o'r gweithdy yw deall 'Pam'. Gall fod angen gweithredu er mwyn cytuno ar eich 'Pam', yn dibynnu ar gymhlethdod y ffocws ar gyfer eich 'Pam'. Ar lefel tîm, gall hyn fod yn gyraeddadwy mewn un neu ddau weithdy, ond ar gyfer mentrau ar draws sefydliad cyfan, gallai hyn gymryd sawl sesiwn a sgwrs er mwyn cyrraedd cytundeb.

Er mwyn cynorthwyo gyda manteisio ar yr allbwn o'r camau, beth am ddefnyddio'r templed yn y tabl isod:

Tabl 4 Templed allbwn gweithdy
Nawr Y dyfodol
Dyma yw ein 'Pam' Gallai hwn fod yn ein 'Pam'
Sut ydym yn gweithio nawr Sut allem ni weithio
Yr hyn a wnawn nawr Yr hyn y gallem ei wneud
Meysydd yr hoffem eu datblygu
Unrhyw beth y dylem roi'r gorau i'w wneud?