Cam 2: Adnabod eich themâu
Dylai eich 'adrodd' yng Ngham 1 helpu i ysgogi'r sgwrs o adnabod y themâu sy'n codi o'ch datganiadau o straeon. Yn y rhan hon o'r gweithdy, eich nod yw archwilio'r themâu ymhellach i ddatblygu'ch 'Pam' yn rhywbeth mwy cydlynol, ond hefyd ystyried eich 'Sut'.
Darganfod
Cytunwch ar y themâu sy'n codi, a rhestrwch y rhain – a oes unrhyw beth ar goll?
Gofynnwch i gyfranogwyr:
- Drafod y cyfraniad y gallant ei wneud i eraill mewn perthynas â'r themâu
- Beth yw'r straeon mwyaf diddorol ac effeithiol gan eich cyfranogwyr mewn perthynas â'r themâu?
- Beth sy'n eu hysbrydoli, ac a oeddent yn teimlo y gallent rannu eu stori eu hunain yn sgil hynny – beth oedd eu stori?
Datblygu'r themâu:
- Beth mae'r themâu hyn yn ei olygu mewn gwirionedd – gofynnwch i gyfranogwyr ail-rannu eu straeon, ond canolbwyntiwch ar:
- Pam wnaethon nhw hynny?
- Sut aethant ati i wneud hynny?
- Beth wnaethant?
- Pa themâu sy'n codi wrth rannu'r straeon? Canolbwyntiwch ar y rhesymau a beth oedd ynghlwm ag ef?
- Fel grŵp, ail-ysgrifennwch y straeon a'r themâu sy'n codi fel datganiadau o weithredu, e.e., 'i gynnwys bob', 'i ysbrydoli arloesedd'.
Sicrhewch y nodir y rhain er mwyn cyfeirio'n ôl ar gyfer adrodd yng Ngham 2.
Adrodd Cam 2
Adolygu a thrafod yr allbynnau.
- Sut mae cyfranogwyr yn teimlo?
- Beth yw'r effaith arnyn nhw?
- Beth arall hoffent ei wybod?
- Beth arall hoffent ei rannu?
- Ai dyma beth oeddent yn ei ddisgwyl?
Yna, casglwch y datganiadau o weithredoedd yn themâu cyffelyb a thrafodwch pa un all fod y mwyaf perthnasol i'ch ffocws cyfredol a'r rheini a allai fod yn bwysig at y dyfodol.