3.4 'Sut' a 'Beth'
Yn ôl Sinek (2011), mae'r 'Sut' a'r 'Beth' yr un mor bwysig â'r 'Pam', a dylid eu hadolygu a'u cynllunio ar ôl i chi gytuno ar eich 'Pam'. Dechreua hwn drwy ail-ystyried neu gasglu rhagor o dystiolaeth neu ddata ynghylch pa un ai a oes angen newid ai peidio. Beth yw'r canlyniadau yr ydych yn gobeithio eu cyflawni? Sut fyddwch chi'n eu cyflawni nhw? Sut fyddwch chi'n mesur effaith y canlyniadau yr ydych wedi'u cyflawni?
Os yw'r canlyniad yn pennu bod angen newid, ac os nad ydych yn diffinio'r hyn sydd angen i chi ei gwblhau neu gynllunio sut mae ei gwblhau, yna mae'r 'pam y dylid ei wneud' yn amherthnasol: ni fydd yr effaith yn cael ei gyflawni, ac ni fydd cynnydd yn cael ei wneud.
Fel arfer, bydd cyd-destun eich 'Pam' yn arwain y ffordd i'ch 'Sut' a 'Beth', a gallwch ddefnyddio'r fframweithiau, sgyrsiau ac adnoddau sydd ar gael i chi i wneud y newid. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth gynllunio dyfodol oherwydd gall y sut a'r beth fod yn anhysbys, wrth i opsiynau gael eu harchwilio mewn perthynas â phosibiliadau gwahanol ar gyfer y dyfodol. Yn ddiweddarach yn y cwrs, rydym yn cyflwyno fframweithiau a ddefnyddir yn aml ar gyfer cynllunio dyfodol.
Fel rhan olaf o'ch gweithdy, gall fod yn ddefnyddiol ystyried eich 'Sut' a'ch 'Beth' nawr, i bennu'r hyn a all fod angen ei newid, i fod yn sail i sesiynau pellach ar gyfer ystyried y rhain yn fanwl. Os ydych wedi defnyddio'r templed allbynnau gweithdy, adolygwch ef a'i ddiweddaru.
Nawr | Y dyfodol |
---|---|
Dyma yw ein 'Pam' | Gallai hwn fod yn ein 'Pam' |
Sut ydym yn gweithio nawr | Sut allem ni weithio |
Yr hyn a wnawn nawr | Yr hyn y gallem ei wneud |
Meysydd yr hoffem eu datblygu | |
Unrhyw beth y dylem roi'r gorau i'w wneud? |
Gweithgaredd 9 Beth yw eich Pam? – Cynllunio gweithdy
Gan dynnu ar amlinelliad o gynnal gweithdy 'Beth yw eich Pam?', cynlluniwch weithdy y gallech ei gynnal gyda naill ai tîm yr ydych yn rhan ohono, neu grŵp yr ydych yn cydweithio gydag ef.
Rydym wedi darparu pecyn cymorth 'Beth yw eich Pam?' y gallwch ei lawrlwytho ar ffurf PDF/PowerPoint sy'n cynnwys elfennau o'r adran hon i'w defnyddio ar gyfer cynnal eich gweithdy eich hun.
Lawrlwytho'r pecyn cymorth [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]