4.2 Cynefin – gwneud penderfyniadau gwell
Mae'r Fframwaith Cynefin ® yn cynnwys y gair Cymraeg ar gyfer 'y lle'r ydych yn perthyn iddo,' (Cynefin, dim dyddiad) ac fe'i datblygwyd gan David Snowden ym 1999. Cyhoeddodd David Snowden a Mary Boone y fframwaith yn yr Harvard Business Review [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn 2007 ac ers hynny mae wedi helpu arweinwyr i ddeall eu heriau a gwneud penderfyniadau mewn cyd-destun, yn seiliedig ar y gwahanol amgylcheddau yr ydym yn gweithredu ynddo. Drwy wneud synnwyr, gallwn ddatblygu ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n wirioneddol gymhleth a'r hyn nad ydyw, ac ymateb yn unol â hynny. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw egni yn cael ei wastraffu yn gorfeddwl y drefn arferol, ond mae hefyd yn sicrhau na ddylem geisio datrys sefyllfaoedd cymhleth gyda datrysiadau safonol.
Wrth wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer newid, mae'r fframwaith Cynefin wedi'i ddylunio i ddatblygu'ch gallu i wneud synnwyr, drwy ddysgu o'r gorffennol ac archwilio sefyllfaoedd posibl y dyfodol. Mae'r model yn canolbwyntio ar bum parth sefyllfaol mae sefydliadau ac arweinwyr yn gweithredu ynddynt:
- dryslyd
- clir
- anodd
- di-drefn
- cymhleth.
Yna, caiff cyfyngiadau eu cymhwyso i bob un ohonynt, ac mae'r model yn helpu i ddynodi'r math o brosesu sy'n gweithio orau ym mhob parth. Dengys Ffigwr 19 bum parth y fframwaith Cynefin.
Yn y fideo 'Cyflwyniad i Cynefin', eglura Dave sut mae'r fframwaith wedi datblygu a sut ellir ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau gwell, fel arweinydd ac o fewn timau yn datblygu sefyllfaoedd y dyfodol ac yn rheoli prosiectau newid.
Transcript: Fideo 8 Cyflwyniad i Cynefin
Fel yr eglura Dave Snowden yn Fideo 8 'Cynefin Framework – Getting started with Cynefin’, mae elfen o symlrwydd yn y dull o ddatrys problemau gan nad oes y fath beth ag un ateb i bob cwestiwn a phwysleisia bwysigrwydd rhwydweithiau anffurfiol ar gyfer datrys problemau yn well ac yn fwy effeithiol. Gellir addasu'r fframwaith Cynefin i ddarparu dull gweithredu syml y gellir ei ffitio ar gefn napcyn, a chyfeiria at y stori parti plant er mwyn dangos y fframwaith symlaf.
Creda fod tri pheth y dylai sefydliadau eu gwneud i fagu hyder cyflogeion ar gyfer rhagweld y pethau anhysbys a newid, ac ymdrin â nhw, a magu rhwydweithiau anffurfiol a ffurfiol.
- Mapiwch eich gwybodaeth i'r gronynogrwydd sydd ei angen
- Ail-ddefnyddiwch beth ydych chi eisoes yn dda am ei wneud
- Datblygwch rwydweithiau ffurfiol.
Gweithgaredd 12 Dechrau arni gyda Cynefin
Argymhellwn i chi neilltuo 30 munud ar gyfer y cyflwyniad, ac yna neilltuwch amser y tu hwnt i astudio'r cwrs hwn i ddatblygu'ch dealltwriaeth ymhellach.
1. Cymerwch ychydig o amser i archwilio'r fframwaith Cynefin, gan ddefnyddio'r adnoddau canlynol a'r fideo isod:
- The Cynefin Co - Home (Cynefin, dim dyddiad)
- The Cynefin Co - Estuarine mapping(Cynefin, dim dyddiad)
- Cynefin.io – Naturalising Sense-Making wiki (Cynefin, dim dyddiad)
- Cynefin.io - Field guide to managing complexity (and chaos) in times of crisis (dim dyddiad)
- Cynefin.io - Flexous curves(Cynefin, dim dyddiad)
Yn y fideo canlynol, 'Cynefin Framework – Getting started with Cynefin', eglura Dave Snowden y fframwaith mewn rhagor o fanylder.
Sut allai eich helpu chi i wneud penderfyniadau gwell? Ystyriwch y cwestiynau canlynol a gwnewch nodiadau yn y blwch testun isod:
- Beth yw'r heriau ar gyfer deall pa 'system' ydych chi ynddi?
- Beth mae 'ontoleg' yn ei olygu i chi? (Os yw hwn yn derm newydd i chi, efallai yr hoffech ymchwilio iddo yn gyntaf.)
- Beth yw eich rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol y gallwch dynnu arnynt?
- Beth yw eich dewis personol: anhrefn, cymhlethdod neu drefn? Pam mae hynny?
Fideo 9 Cynefin Framework – Getting started with Cynefin (2022)
2. Ysgrifennwch gyflwyniad byr i Cynefin, yn seiliedig ar eich dysg hyd yn hyn.
(Os hoffech ddatblygu'ch dysg ymhellach, mae rhwydd hynt i chi neilltuo amser i hyn y tu hwnt i'ch amser astudio ar gyfer y cwrs hwn.)
Ateb
Mae dealltwriaeth o'ch heriau a'r gefnogaeth sydd gennych i gynorthwyo gydag ymdrin â phroblemau yn hanfodol ar gyfer cynllunio dyfodol a gweithredu newid. Gall y fframwaith Cynefin eich helpu chi i wneud synnwyr o'r broblem a phwysleisio pwy all eich cefnogi chi ac arwain at benderfyniadau gwell yn cael eu gwneud. Gall fod yn ddefnyddiol gofyn i'r rheini yr ydych yn ymddiried ynddynt er mwyn i chi allu dod yn fwy cyfforddus yn sgwrsio am ansicrwydd ac ymdrin â'r pethau 'anhysbys' gan y gall eich helpu chi i dderbyn y ffaith ein bod yn aml yn gweithio mewn amgylchedd lle na fydd y pethau anhysbys yn dod o reidrwydd yn bethau hysbys.