5.1 Tri Gorwel
Mae 'Model Tri Gorwel' yr International Futures Forum [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] yn ffordd syml o annog sgyrsiau ynghylch heriau yn y presennol, dyheadau ar gyfer y dyfodol a'r arloesedd a'r datrysiadau a all fod yn ofynnol i fynd i'r afael â'r rhain.
Mae'n ddull gweithredu sydd wedi'i fabwysiadu a'i addasu gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, i greu pecyn cymorth i gyrff cyhoeddus ei ddefnyddio i gynorthwyo gyda'u cynllunio dyfodol hirdymor.
Yn Fideo 10, mae Bill Sharpe (Partner Sefydlu – Future Stewards, Ymchwilydd Annibynnol mewn Gwyddoniaeth, Technoleg a Chymdeithas) a Dr Louisa Petchey (Uwch-arbenigwr Polisi – Iechyd Cyhoeddus Cymru) yn trafod sut y defnyddiwyd y dull Tri Gorwel i ddatblygu dull gweithredu o ran meddwl am y dyfodol.
Wrth i chi wylio'r fideo, meddyliwch am rai o adrannau cychwynnol y cwrs a myfyriwch ar ba mor gyfforddus ydych chi'n teimlo ynghylch cynllunio dyfodol nawr.

Transcript
Gellir defnyddio'r dull Tri Gorwel i ystyried y mater, sut all newid dros amser a phersbectifau gwahanol randdeiliaid. Dangosir hyn yn Ffigwr 20 a Thabl 7.
Beth | Sut | Persbectifau rhanddeiliaid | |
---|---|---|---|
Gorwel 1 Busnes fel arfer – y sefyllfa bresennol |
Yr angen i'r sefyllfa bresennol newid | Yn y presennol, tueddiadau a materion cyfredol | Deiliaid pŵer |
Gorwel 2 Gweithgareddau ac arloesiadau ar gyfer gwneud pethau'n wahanol |
Syniadau ar gyfer sut i gael o'r lle'r ydym ni nawr | Tueddiadau newydd | Arloeswyr |
Gorwel 3 Datrysiadau hirdymor a ffyrdd newydd o wneud busnes fel arfer |
Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol | Tueddiadau a allai oruchafu yn y dyfodol, gweledigaethau yn cystadlu | Gweledigaethol |
Yn fideo 11 isod, eglura Bill Sharpe y dull Tri Gorwel.

Transcript: Fideo 11 Trosolwg o’r dull Tri Gorwel
Yn y fideo, eglura Bill Sharpe fod y dull Tri Gorwel yn denu sylw at y tri gorwel sy'n bodoli yn y presennol, y gallwn gasglu tystiolaeth ganddynt ynghylch y dyfodol gan y presennol, er mwyn ystyried posibiliadau gwahanol o ran dyfodol.
Mae pob gorwel wedi'i ddylunio i'ch caniatáu chi i archwilio'r posibiliadau gwahanol.
H1 – Y Gorwel Cyntaf...
...yw'r system oruchaf yn y presennol. Mae'n cynrychioli 'busnes fel arfer'. Rydym yn dibynnu ar y systemau hyn i fod yn sefydlog a dibynadwy ond wrth i'r byd newid, mae agweddau ar fusnes fel arfer yn dechrau teimlo allan o'u lle neu ddim yn addas at y diben mwyach. Yn y pendraw, bydd busnes fel arfer yn cael ei ddisodli gan ffyrdd newydd o wneud pethau.
H3 – Y Trydydd Gorwel...
...sy'n dod i'r amlwg fel yr olynydd hirdymor i fusnes fel arfer. Mae'n datblygu o weithgaredd ymylol yn y presennol sy'n cyflwyno ffyrdd hollol newydd o wneud pethau ond sydd, yn y pendraw, yn llawer mwy addas i'r byd sydd ohoni na'r systemau goruchaf yn H1. Rydym yn galw'r amlygiadau cynnar hyn yn 'bocedi o'r dyfodol yn y presennol.'
H2 – Yr Ail Orwel...
...yn batrwm o weithgareddau ac arloesiadau trosi, pobl yn rhoi cynnig ar bethau i ymateb i'r ffyrdd mae'r tirlun yn newid. Bydd systemau H1 yn ymgymryd â rhai o'r arloesiadau hyn i ymestyn eu hoes, a bydd rhai yn arwain y ffordd ar gyfer cyflwyno systemau H3 sy'n hollol wahanol.
Dylid ystyried pob gorwel gyda'i gilydd i feddwl am y newidiadau rhyngddynt dros amser.
Gweithgaredd 14 Ystyriwch sut allwch ddefnyddio'r dull Tri Gorwel
1. Gwyliwch y fideo lle mae Dr Louisa Petchey yn egluro'r dull Tri Gorwel a sut all cyrff cyhoeddus ei ddefnyddio i gynorthwyo gyda chynllunio hirdymor.

Transcript: Fideo 12 Defnyddio'r dull Tri Gorwel ar gyfer cynllunio hirdymor
2. Adolygwch y 'Tri gorwel: Pecyn cymorth i’ch helpu i feddwl a chynllunio ar gyfer y hirdymor' (Petchey, dim dyddiad) a chynlluniwch weithdy (gweler t. 11 y pecyn cymorth) gyda'ch cydweithwyr y tu hwnt i'r amser a neilltuwyd i astudio'r cwrs hwn. Cynefinwch eich hun â'r model a chanolbwyntiwch ar fater/problem yr hoffech fynd i'r afael â hi gyda'ch gilydd.
Efallai yr hoffech wneud nodiadau isod ynghylch sut fyddwch yn mynd ati i wneud hyn.
Os hoffech ddatblygu'ch dealltwriaeth o'r dull Tri Gorwel ymhellach, mae'r International Futures Forum a'r Uned H3 yn darparu mynediad at arweiniad ynghylch defnyddio'r dull a'r adnoddau sydd ar gael i'w defnyddio yn rhad ac am ddim.
- Tri Gorwel (iffpraxis.com)
- Tri Gorwel (h3uni.org)