5.2 Dull Cynllunio Senarios Rhydychen (OSPA)
Mae Dull Cynllunio Senarios Rhydychen (‘Oxford Scenario Planning Approach’ / OSPA) yn canolbwyntio ar senarios ac opsiynau strategol petai rhywbeth yn newid i status quo sefydliad, naill ai fel materion brys, neu i gynllunio ar gyfer fersiynau posibl y dyfodol.
Mae'r OSPA yn arbennig o gadarn gan ei fod yn sicrhau bod y senarios a grëir yn cael eu defnyddio gan yr unigolyn y maent wedi'u datblygu ar eu cyfer ac at y dibenion y cawsant eu dyfeisio ar eu cyfer. Mae'r Athro Rafael Ramírez (Athro Ymarfer, Ysgol Fusnes Saïd, Prifysgol Rhydychen) yn diffinio senarios fel 'cyfuniad bach o gyd-destunau wedi'u creu fel posibiliadau yn y dyfodol o rywbeth ar gyfer rhywun at ddiben gyda rhyngwyneb wedi'i nodi ymlaen llaw'.
Yn y fideo isod, eglura'r OSPA ymhellach.

Transcript: Fideo 13 Cyflwyniad i Ddull Cynllunio Senarios Rhydychen
Yn y fideo, cyfeiria'r Athro Rafael Ramírez at amodau TUNA – sef Turbulence (Trybestod), Uncertainty (Ansicrwydd), Novelty (Newydd-deb) (ac unigryw) ac Ambiguity (Amwysedd). Gall hyn helpu i ail-fframio senarios fel proses gymdeithasol mewn cyfnodau o ansicrwydd, er mwyn ystyried ffyrdd newydd o oroesi a llwyddo, a chwilio amdanynt. Ceir rhagor o wybodaeth yn Ffigwr 21.
Gweithgaredd 15 Meddwl am yr amodau TUNA
Myfyriwch ar Fideo 13 ‘Oxford Scenario Planning Approach’ a sut allwch chi ail-fframio senarios gan dynnu ar yr amodau TUNA a ddisgrifiwyd. Sut all effaith yr amodau hyn ddylanwadu ar wneud penderfyniadau a'ch helpu chi i ymateb i'ch amgylchedd allanol?
Efallai yr hoffech wneud nodiadau isod ynghylch hyn.
Trafodaeth
Mae rheoli ac ymateb mewn cyfnodau o ansicrwydd yn gofyn yr hyder i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ffactorau anhysbys i geisio lleihau risgiau. Gall archwilio amodau TUNA helpu i ail-fframio ac ystyried y posibiliadau amgen o ddyfodol a all ddigwydd, i'ch caniatáu chi i ddatblygu senarios a dylunio dulliau ar gyfer nifer o bosibiliadau.
Yn yr adran nesaf, rydym yn canolbwyntio ar ‘Islands in the Sky’, wedi'i greu gan Dr Matt Finch, a sut mae'n tynnu ar elfennau o OSPA, i ddarparu dull wedi'i symleiddio er mwyn galluogi timau a sefydliadau i gynllunio senarios – fel yr oedd yn ofynnol yn ystod pandemig COVID-19 yn 2020 –pan oedd sefydliadau yn ymdrin ag ansicrwydd parhaus. Mae'r dull yn cynnig fframwaith ar gyfer y rheini sy'n llai cyfarwydd â chynllunio dyfodol a senarios i ymgysylltu â dulliau gwahanol, teimlo'n gyfforddus yn cynllunio ar gyfer yr anhysbys, ac ystyried posibiliadau ar gyfer y dyfodol.