5.3 Cyflwyniad i ‘Islands in the Sky’
Mae ‘Islands in the Sky’ yn adnodd cynllunio strategol yn seiliedig ar senarios ac ymwybyddiaeth sefyllfaol sy'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer rheoli ansicrwydd. Mae wedi'i ddylunio ar gyfer strwythuro sgyrsiau ynghylch yr amgylchedd busnes yn y dyfodol i fod yn sail i wneud penderfyniadau yn y presennol. Mae hyn yn caniatáu llais i bawb ac i bethau gael eu gwneud yn gyflym. Efallai na fydd yn berffaith, ond mae'n helpu i ffurfio sylfaen y gallwn ei ddefnyddio i ddysgu a'i ddatblygu dro ar ôl tro.
Mae'r dull yn eich annog chi i gyflwyno ystod o leisiau i'r sgwrs ac ystyried gwahanol werthoedd diwylliannol a chymdeithasol. Caiff gwahanol brofiadau bywyd a chanfyddiadau o realiti eu hystyried i lywio'r pethau pwysicaf mewn diwylliant, cymdeithas neu sefydliad.
Caiff unigolion a/neu dimau eu dwyn ynghyd i archwilio'r amgylchedd ac ystyried y dyfodol. Mae hyn fel arfer yn digwydd mewn gweithdy, ac argymhellir chi i wneud hyn naill ai o bell neu'n wyneb yn wyneb, yn hytrach nag hybrid. Yna, rydych yn gweithio drwy gyfres o gamau, gan ddefnyddio adnoddau cydweithio i gyfrannu at y sesiynau.
Gweithgaredd 16 Reidio beic
Yn y fideo isod, eglura Dr Matt Finch (Cymrawd Cyswllt, Ysgol Fusnes Saïd) y dull ‘Islands in the Sky’ a sut all helpu gyda llywio drwy ddyfodol o ansicrwydd a deall eich perthnasoedd gweithrediadol gyda chyflwyniad gan yr Athro Rafael Ramírez.
1. Wrth i chi wylio'r fideo, meddyliwch am y cwestiwn canlynol mae Matt yn ei ofyn tua diwedd y fideo:
Sut ydw i'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl a'r pethau yr wyf yn eu rhagweld ar hyn o bryd – y tu hwnt i'm gobeithio'n a'm hofnau hyd yn oed – i weld sut allai'r dyfodol fod yn wahanol, mewn ffyrdd nad oeddwn yn eu gweld o'r blaen? (Detholiad o Fideo 14)

Transcript: Fideo 14 Cyflwyniad i ‘Islands in the Sky’
Ateb
Noda Rafael fod y fethodoleg hon yn disgwyl dysgu gweithredol, lle'r ydych yn rhoi cynnig arni ac yn gwneud ychydig o gamgymeriadau, gan ddefnyddio'r gyfatebiaeth reidio beic sy'n debyg i'r math hwn o ddysgu – os ydych chi'n disgyn oddi arno, codwch a rhowch gynnig arall arni.
2. Meddyliwch am y datganiad gan Rafael a'r gyfatebiaeth beic, a sut all hyn eich helpu chi i fod yn fwy ymwybodol o'r pethau na allwch eu gweld. Ystyriwch pa mor agored i ddysgu gweithredol ar gyfer dyfodol ansicrwydd ydych chi. Yna, pleidleisiwch yn y pôl isod:
Ateb
Bydd pa mor gyfforddus ydych chi'n teimlo gyda'r dull hwn yn dibynnu ar eich profiad o reoli ansicrwydd a newid. Mewn sefyllfa sefydliadol lle mai prin reolaeth sydd gennym dros gyfarwyddyd strategol ac amcanion sefydliadol, gall ansicrwydd fod yn deimlad cyffredin.
Gall y dull hwn helpu gyda rheoli'ch teimladau tuag at ansicrwydd drwy ail-fframio'r cyd-destun a'ch helpu chi i deimlo'n fwy cyfforddus gyda'r anhysbys. Mae hyn yn debyg i ddysgu i reidio beic – nid oedd gennych unrhyw syniad sut fyddai'n teimlo y tro cyntaf i chi roi cynnig arni, ond wrth i'ch gallu a'ch hyder wella, rydych yn fodlon rhoi cynnig ar bethau newydd. Sawl un ohonoch chi a geisiodd reidio beic heb ddwylo pan oeddech yn blentyn, neu hyd yn oed yn dal i drio hyd heddiw?
Yn y cyflwyniad i ‘Islands in the Sky’, trafoda Matt a Rafael yr angen i ystyried eich perthnasoedd gweithrediadol, mewn cyd-destun o newid cyflym ac ansicrwydd, pan na allwch ragweld yfory. Cyfeiriant at yr amodau 'TUNA' – sef turbulence (trybestod), uncertainty (ansicrwydd), novelty (newydd-deb) (ac unigryw) ac ambiguity (amwysedd). Gwnaethoch ddechrau meddwl am y rhain yng Ngweithgaredd 16. Gweler Tabl 6 isod sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth ynghylch amodau TUNA. Mae'r amodau hyn yn ymgymryd â dull gweithredu systemaidd a gallant alluogi timau/sefydliadau i ddatblygu eu hymwybyddiaeth sefyllfaol, a deall yn well y cyd-destun maent yn gweithio ynddo i greu dyfodol gwell.
Cythrwfl (Turbulence) | Ansicrwydd (Uncertainty) | Newydd-deb (Novelty) (ac unigryw) | Amwysedd (Ambiguity) |
---|---|---|---|
Cyflymder newid, gyda chymhlethdod uchel ac ansicrwydd. | Mae ansicrwydd yn anrhagweladwy, yn drafferthus a gall fod yn afreolus. | Ymateb i sefyllfaoedd sy'n ddychmygadwy ac annychymygadwy sy'n gofyn cysyniadau, technolegau a dulliau newydd. | Rheoli a deall dehongliadau gwahanol o sefyllfaoedd, yn aml pan mai prin yw'r wybodaeth sydd ar gael neu pan mae gwybodaeth anghyson ar gael. |
Yn Fideo 15, 'Working with uncertainty', eglura Dr Matt Finch pan ydym yn gweithio mewn cyfnodau o ansicrwydd anrhagweladwy, ac na allwn dynnu ar ddata nac ein profiad o sefyllfaoedd cyffelyb, yna rhaid i ni ddod o hyd i fannau ffafriol i dynnu arnynt.
