Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Gwahoddiad i weithio gydag ansicrwydd

The name of ‘Islands in the Sky’ itself, is an invitation. It lets people know that when they take part in this process, there is an element of play. There is an element of ‘make believe’ and they are actually the foundations of these imagined future contexts, precisely because they won't be like yesterday. They're not purely founded in the expectations and assumptions of the past. They can also be built based on ‘what if’ and the questions of ‘what might be’ – the things which go beyond our usual expectations, the ways that we think that trends are going to play out, their way of thinking about what happens if a trend bends or even breaks.

And that means that they are, in a way, more like looking up at the sky and seeing pictures in the clouds, seeing faces drifting past us. But that doesn't mean that they don't anchor something very real and very serious when it comes to the decisions we face in turbulent times.

(Finch, 2022)

Gweithgaredd 17 Magu hyder gydag ansicrwydd

Timing: 10 munud

Mae ‘Islands in the Sky’ wedi'i ddylunio i fagu hyder gydag ansicrwydd drwy ofyn cwestiynau megis:

  • Beth os yw pethau'n wahanol i'r hyn yr wyf yn ei ddisgwyl?
  • Beth os oes rhaid i'r dewisiadau hynny a'u canlyniadau fodoli yn y dyfodol hwnnw?
  • A ydyn nhw'n dal i fod yn ddewisiadau da?
  • PETAI'R dyfodol yn digwydd, beth fyddai'n ei olygu ar gyfer ein dewisiadau heddiw?

Meddyliwch am y cwestiynau hyn, a'r anogaeth gan Matt bod y dull hwn yn wahoddiad i chwarae ac edrych i fyny tua'r awyr. Petaech yn edrych i fyny tua'r awyr a meddwl am bosibiliadau'r dyfodol, a'r 'ynysoedd' a'r perthnasoedd ar yr ynysoedd hynny, sut beth fyddai hyn?

I'ch helpu, cymerwch ddarn o bapur a nodwch y delweddau sy'n dod i'ch meddwl. Mae hwn yn gysyniad y cyfeirir ato yn aml fel 'delwedd fanwl'. Clywsoch am y syniad hwn yn Adran 3. Mae Ffigwr 22 isod yn 'ddelwedd fanwl' yn dychmygu sut beth all ‘Islands in the Sky’ fod, gan un o awduron ein cwrs. Nid oes rhaid i'r delweddau hyn fod yn waith celf o'r radd uchaf, dim ond adlewyrchiad o'ch meddwl.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 22 Enghraifft o ddelwedd fanwl syml

Yn yr adran nesaf, byddwn yn trafod y fethodoleg ‘Islands in the Sky’ yn fanwl.