5.4 ‘Islands in the Sky’ – y fethodoleg
Gall ‘Islands in the Sky’ helpu i amlygu dealltwriaethau am heriau a chyfleoedd y dyfodol. Mae'n creu lle ar gyfer trafodaeth greadigol a syniadau newydd yn ymwneud â phosibiliadau gwahanol yn y dyfodol, er mwyn datblygu strategaethau'r dyfodol.
Fel arfer, y dull ar gyfer hwn fyddai gweithdai gyda grŵp amrywiol o gyfranogwyr, er mwyn sicrhau bod ystod o leisiau yn yr ystafell. Mae chwe cham i'r fethodoleg:
- Cadarnhau'r diben (fel arfer, byddwch yn gwybod beth ydych chi eisiau ei archwilio cyn mynychu gweithdy, ond cofiwch atgoffa'r mynychwyr o'r diben).
- Mapio'r amgylchedd gweithrediadol – perthnasoedd mewnol ac allanol sydd ynghlwm â'r genhadaeth.
- Labelu'r perthnasoedd gyda gwerth 'cymdeithasol' a 'swyddogaethol' ar gyfer bob parti.
- Adnabod yr ansicrwydd sy'n llywio penderfyniadau ar yr ynys, a sut all y rhain amlygu eu hunain yn y dyfodol.
- Adolygu'r cyfleoedd a'r heriau:
- dewiswch y rheini sydd angen rhagor o ymchwilio neu y gellid eu datblygu
- rhowch y ddysg ar waith.
- Adborth a dilyniant.
Yn y fideo, cynigia Dr Matt Finch ddealltwriaethau am sut allwch chi ddefnyddio ac addasu ‘Islands in the Sky’ at eich dibenion a sgyrsiau gwell. Wrth i chi ddarllen drwy gamau'r fethodoleg, myfyriwch ar y dealltwriaethau y mae'n eu rhannu.
![](https://www.open.edu/openlearn/pluginfile.php/3633275/mod_oucontent/oucontent/117422/109fb9c8/03969acf/hyb_7_2022_sept108e_overview_of_island_in_the_sky_compressed.png)