Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Cam 2: Amgylchedd gweithrediadol

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigwr 23 Yr amgylchedd gweithrediadol

Amgylchedd gweithrediadol yw'r 'ynys' yr ydych yn byw arni yn seiliedig ar gyfathrebu a pherthnasoedd rhwng pobl yr ydych yn rhyngweithio â nhw fel rhan o'r busnes. Pwysig yw deall anghenion a phersbectifau gwahanol pob unigolyn, i gyrraedd dealltwriaeth neu gytundeb gyda'ch gilydd.

Mae cyfranogwyr yn mapio eu hamgylchedd gweithrediadol ac yn nodi'r holl endidau maent yn rhyngweithio gyda nhw'n uniongyrchol wrth iddynt gyflawni eu gwaith, i fapio'r perthnasoedd mewnol ac allanol sydd ynghlwm â'u cenhadaeth.

Ystyriwch:

Yn fewnol ac yn allanol:

  • Gyda phwy ydych chi'n gweithio?
  • Pwy y mae'n rhaid i chi eu hystyried?