Cam 3: Gwerth perthnasoedd
Cafodd y fethodoleg ynysoedd ei chreu'n wreiddiol i archwilio ffyrdd hybrid o weithio wedi'r pandemig. Roedd hyn yn golygu ystyried pa bryd oedd angen i bobl a thimau ddod at ei gilydd wyneb yn wyneb neu ar-lein am resymau cymdeithasol, cydweithio, a phan oedd y rhesymau yn ymwneud â'r dasg yn unig. Ystyriwch y perthnasoedd sydd â gwerth cymdeithasol a swyddogaethol a gynhyrchwyd gan y ddau barti a labelwch y rhain gyda'r gwerth maen nhw'n ei gynhyrchu ar gyfer y ddau barti.
Cymdeithasol: trafod a chydweithio
Swyddogaethol: yn weithrediadol/canolbwyntio ar dasg yn bennaf.
Gofynnwch yn feintiol ac yn ansoddol:
- pa wahaniaeth mae pob perthynas yn ei wneud ym mhob cyfeiriad?
Meddyliwch am y pethau sy'n dylanwadu'r penderfyniadau mae pobl neu sefydliadau yn eu gwneud a'r pethau a all newid eu hymddygiadau. Gallwch ddefnyddio templed fel yr un a ddengys yn Nhabl 9 isod i helpu gyda'ch ffordd o feddwl.
Gwleidyddol | Technolegol | Teimladau | Heriau |
Economaidd | Cyfreithiol | Canfyddiadau | Cyfleoedd |
Cymdeithasol | Amgylcheddol | Tueddiadau | Bygythiadau |