5.6 ‘Better Value Sooner Safer Happier’
Mae dewis y dull cywir ar gyfer y broblem y mae angen i chi ymdrin â hi yn bwysig, yn enwedig os ydych yn canolbwyntio ar broblemau sy'n gysylltiedig â thrawsnewidiad digidol. Gall dulliau sydd wedi esblygu yn seiliedig ar y defnydd o dechnoleg eich arwain chi a'ch helpu i ddarganfod dealltwriaethau sy'n benodol i ymdrin â phenderfyniadau a/neu broblemau sy'n ymwneud â thrawsnewidiad digidol.
Mae'r dull ‘Better Value Sooner Safer Happier’ (BVSSH), a ddatblygwyd gan Jonathan Smart a chydweithwyr (2022), yn eich helpu chi i ddiffinio'ch problem ac mae'n cynnig map trywydd pwerus i gyflawni'ch amcanion a mesur llwyddiant eich canlyniadau. Fel nifer o rai eraill, wrth wraidd dechrau'r dull oedd 'pam?' (megis: Pam mae angen ffordd well o weithio a ffordd well o greu gwerth?) a ddeilliodd o'u gwaith gyda chwmnïau technoleg gwybodaeth.
Mae Sooner Safer Happier yn werslyfr yn seiliedig ar ddegawdau o brofiad ymarferol o wella ffyrdd o weithio mewn cannoedd o sefydliadau. Caiff y ddysg ei strwythuro mewn wyth 'patrwm’ a ‘gwrth-batrwm’ ar gyfer gwytnwch busnes.
Mae patrwm yn ymateb i sefyllfa sydd, yn amlach na pheidio, yn effeithiol ac yn gwella canlyniadau a ddymunir. Wrth gwrs, daw hyn â'i fanteision a'i anfanteision, yn ôl ac ymlaen, mae'r cwbl yn ymwneud â'r bobl. Gall patrwm helpu i greu momentwm ar gyfer newid.
Y gwrth-batrwm yw defnyddio Trawsnewidiad Gwydn ar draws eich sefydliad, gyda chwmpas/cyllideb/cynllun diffiniedig, h.y. cymhwyso hen ffyrdd o feddwl at ffyrdd newydd o feddwl, sy'n annhebygol o greu'r buddion a ddymunir.
Eglura tabl 10 y math o broblemau sefydliadol all y patrymau hyn gynorthwyo gyda nhw.
Problem sefydliadol | Canlyniad a ddymunir |
---|---|
'Rydym yn rhy ddrud ac yn aneffeithlon. Mae'n anodd cyflawni unrhyw beth, ac mae diffyg egni yn y sefydliad yn ein dal yn ôl. Mae'r gost o newid yn uchel ac yn cymryd llawer o amser. Rhaid i ni fod yn fwy effeithlon!' | Hoffwn gyflawni gwerth yn fwy effeithlon |
'Rhaid i ni wella o ran rheoli buddion. Nid ydym yn gwybod pa werth mae ein buddsoddiadau mewn newid yn eu hychwanegu, dim ond barn ydyw. Rhaid i ni wella'r modd yr ydym yn mynegi, yn mesur, ac yn blaenoriaethu'r gwerth uchaf!' | Hoffwn gyflawni'r gwerth uchaf |
'Mae pethau'n cymryd yn rhy hir. Os na fyddwn yn newid, ni fyddwn yma mwyach. Mae ein cystadleuwyr ar y blaen. Mae gwneud dim yn golygu ein bod yn mynd yn ôl yn gyflym. Rhaid i ni gyflymu.' | Hoffwn leihau'r amser a gymerir i gyflawni gwerth |
'Pan mae ein timau cyflawni yn wynebu risgiau a rheolaeth, nid oes gwahaniaeth a ydynt yn wydn ai peidio, mae'r cwbl yn arafu i'r un cyflymder. Gall deimlo fel bod gennym rwystrau llywodraethiant, ond eto mae pethau'n cael eu rheoleiddio'n ofalus iawn a rhaid i ni reoli risg a chynnal ymddiriedaeth reoliadol.' | Hoffwn gael cyflymder a rheolaeth |
'Mae ein pobl gorau yn gadael. Mae'r farchnad ddoniau mor gystadleuol. Mae ein trosiant staff yn wirioneddol wastraffus. Rydym yn colli gwybodaeth ac enw da. Rhaid i ni wella o ran denu a chadw'r doniau gorau.' | Rwyf eisiau gweithlu sy'n cyfrannu fwy |
'Rydym yn gwastraffu llawer o amser yn meddwl. Ceir mân welliannau, ond nid oes unrhyw ddealltwriaeth gyffredin. Mae gan bawb safbwyntiau mor ddiysgog. Gall y dadleuon fynd yn danllyd. Mae angen canolbwyntio ein hegni ar wneud gwahaniaeth go iawn.' | Hoffwn wybod pam mae ffyrdd o weithio o bwys |
'Rydym wedi bod yn sgwrsio am drawsnewid ers cryn dipyn o amser ac wedi dechrau arni. Rydym yn gwneud peth gynnydd mewn TG ond nid yw'r sefydliad ehangach yn teimlo'r budd hyd yn hyn. Fel tîm arwain, hoffem wella canlyniadau ac rydym eisiau newid parhaol.' | Hoffwn feithrin newid diwylliannol |
'Er mwyn i'n sefydliad oroesi a ffynnu, gwyddom fod angen i ni addasu'n gyflym. Mae'r raddfa o newid yn ddychrynllyd, ac nid ydym yn siŵr lle mae dechrau gwneud y newidiadau hyn.' | Hoffwn wybod lle mae dechrau/ail-ddechrau |
'Mae ein cyllid buddsoddiad ynghlwm ag achosion busnes manwl a chylchredau prosiect blynyddol. Anodd yw deall sut bell all model ariannu fod mewn perthynas â'r ffyrdd newydd o weithio.' | Hoffwn wybod sut mae ariannu ystwythder |
Yn y fideo isod, eglura Myles Ogilvie a Matt Turner (y ddau yn Benaethiaid yn Sooner Safer Happier Limited) egwyddorion Better Value Sooner Safer Happier.

Transcript: Fideo 20 Cyflwyniad i Better Value Sooner Safer Happier
Gweithgaredd 20 Dysgu rhagor ynghylch Better Value Sooner Safer Happier
Darllenwch yr erthygl 'What is BVSSH?’ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Smart, 2022) ac yna ewch ar wefan Sooner Safer Happier i ddysgu rhagor ynghylch y dull hwn.
Ystyriwch sut all canolbwyntio ar ganlyniadau helpu gyda datblygu ffyrdd mwy cadarn o weithio. Efallai yr hoffech wneud nodiadau yn y blwch isod.
Os yw hwn yn ddull sydd o ddiddordeb i chi, mae'r tîm Better Values Sooner Safer Happier wedi creu cwrs ar gyfer OpenLearn i ddatblygu'ch dealltwriaeth ymhellach efallai yr hoffech gael sbec arno. Introduction to business agility - OpenLearn - Open University