Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.7 Dewis dull gweithredu

Efallai y teimlwch fod un o'r dulliau y gwnaethom eu cyflwyno i chi yn teimlo fel y dull mwyaf priodol i chi ei ddefnyddio yn naturiol. Yn aml, eich dewis personol a'ch dull cynllunio fydd yn ysbrydoli'ch dewis. Neu efallai y teimlwch fod elfennau o'r dulliau gweithredu gwahanol y gallwch dynnu arnynt i ddatblygu'ch dull eich hun ar gyfer gweithio gyda'ch timau i gynllunio'r dyfodol.

Mae sawl dull gweithredu a phecynnau cymorth ar gael i chi eu defnyddio - dim ond llond llaw ohonynt yr ydym wedi'u cyflwyno i chi.

Darllen pellach

Gwefan OPSI

Mae gwefan Observatory of Public Sector Innovation [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (OPSI) yn cynnig adnoddau darllen cefndirol rhagorol a dolenni at fframweithiau, modelau, a thempledi ar gyfer gweithdai. Efallai y bydd y rhain yn ddefnyddiol i'ch helpu chi i ddarganfod arwyddion ar gyfer y dyfodol yr ydych yn ei ddisgwyl, a dadansoddi effaith hynny, a chynllunio sut fyddwch yn ymateb iddo. https://oecd-opsi.org/

Gweithdy Futures Frequency

Mae'r safle hon yn ddefnyddiol ar gyfer ystyried posibiliadau gwahanol o ran y dyfodol ac yn cynnig fideos i ysgogi'ch meddwl, yn ogystal â phecynnau cymorth i gynnal eich gweithdai eich hun. Adolygwch y fideos a'r cynnwys ar wefan Sitra Futures Frequency: Futures Frequency - Sitra.

OpenLearn

Os ydych yn gweithio ar brosiectau sy'n canolbwyntio ar arloesedd, efallai yr hoffech astudio'r cwrs OpenLearn Making creativity and innovation happen .

Gweithgaredd 21: Cynllunio i ddefnyddio dull

Timing: 15 munud

Treuliwch ychydig o amser yn myfyrio ar y dulliau a lluniwch gynllun ar gyfer sut allech chi eu defnyddio i gynnal sesiwn cynllunio dyfodol gydag eraill, neu i'ch helpu chi i wneud synnwyr o'r broblem y mae angen i chi ei datrys. Wrth i chi wneud hynny, cofnodwch nodiadau ynghylch meysydd yr hoffech eu hystyried, pa adnoddau efallai y bydd angen i chi eu defnyddio i gynorthwyo gyda defnyddio'r dull, a pha ymchwil arall efallai yr hoffech ei gyflawni.