6.1 Adnoddau meddwl systemaidd
Mae OpenLearn Systems Thinking Hub [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Y Brifysgol Agored, dim dyddiad) yn darparu mynediad at ystod o adnoddau a chyrsiau a all fod o ddiddordeb i'r rheini sy'n dymuno datblygu eu dealltwriaeth ymhellach drwy ddechrau gyda Systems thinking and practice – OpenLearn (Y Brifysgol Agored, 2021). At ddibenion y cwrs hwn, rydym yn canolbwyntio ar dri dull gweithredu, efallai yr hoffech eu defnyddio i helpu i ddatblygu opsiynau ymhellach.
Diagramau cyswllt achosol
Mae diagram cyswllt achosol yn cynnwys pedair elfen sylfaenol:
- y newidynnau
- y cysylltiadau rhyngddynt
- yr arwyddion ar y cysylltiadau
- arwydd y cyswllt.
Bydd y fideo nesaf yn eich arwain drwy sut mae creu diagram cyswllt achosol.
Transcript: Fideo 21 Diagramau cyswllt achosol
Diagram sawl achos
Os oes angen i chi archwilio dynameg achosol sefyllfa, yna mae angen diagram sawl achos arnoch chi. Bydd hyn yn dangos i chi drosolwg o nifer o ffactorau achosol perthnasol a sut mae'r rhain yn cysylltu â'r naill a'r llall o ran beth sy'n achosi rhywbeth arall. Bydd y fideo nesaf yn eich arwain drwy sut mae creu diagram sawl achos.
Transcript: Fideo 22 Diagram sawl achos
Diagram dylanwad
Gall fod yn ddefnyddiol dechrau gyda map systemau ac yna ei addasu fel diagram dylanwad, gan fod y diagram hwn yn defnyddio saethau i ddarlunio'r dylanwadau rhwng is-systemau. Bydd y fideo nesaf yn eich arwain drwy sut mae creu diagram dylanwad.
Transcript: Fideo 23 Mapiau dylanwad
Nawr eich bod wedi cael cyfle i archwilio'r adnoddau meddwl systemaidd, mae'r gweithgaredd canlynol yn gofyn i chi roi cynnig ar un ohonynt.
Gweithgaredd 23 Rhoi cynnig ar yr adnoddau
Defnyddiwch un o'r tri dull gweithredu i archwilio rhai o'r heriau o symud i fodel hybrid yr ydych yn meddwl amdano.
- Beth yw diwylliant eich sefydliad? Beio neu atebolrwydd, cymathol neu gynhwysol, amharod i gymryd risgiau neu arbrofol, etc.
- Beth yw amodau, cyfleoedd a chyfyngiadau eich prosiect? Cyllideb, costau, staffio, lleoliadau, deddfwriaeth ac ati?
- Pwy a beth sy'n cydweithio i greu'r hyn a wneir, a beth yw'r cydgysylltiadau sy'n hwyluso hyn?
- A yw'r cydgysylltiadau hynny yn dynn neu'n fwy rhydd?
Myfyrio ar eich gweithgaredd gwneud synnwyr:
- A wnaethoch chi ddarganfod unrhyw beth newydd ynghylch y sefyllfa?
- A welsoch chi wahanol bersbectifau o'r sefyllfa wrth i chi weithio drwy'r sefyllfa?
- A adnabuoch chi unrhyw gysylltiadau yn eich diagramau? A beth maen nhw'n ei ddarlunio yn eich barn chi?
- A adnabuoch ragor o ansicrwydd y mae angen i chi wneud synnwyr ohono?
Gall y cyflwyniad i'r meddwl systemaidd a dulliau yr ydym wedi'u harchwilio yn yr adran hon eich helpu chi i ddatblygu'ch opsiynau gyda gwell eglurdeb ac ymgysylltu rhanddeiliaid.