7.2 Cydsyniad gan randdeiliaid
Mae amharodrwydd rhanddeiliaid mewn perthynas â newid yn creu rhwystr grymus rhag bodloni amcanion eich sefydliad a gall hyd yn oed amharu ar eich menter. Mae'r gallu i gysylltu cwestiynau 'Pam' personol, y tîm a'r swyddogaeth â chwestiynau 'Pam' y sefydliad er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir yn rhan hollbwysig o'r strategaeth, gan fod ymrwymiad yn datblygu ac mae unigolion, timau a swyddogaethau yn dod ynghyd i gyflawni pethau.
Wrth i chi egluro opsiynau a chyflwyno'r rhain i randdeiliaid, mae angen dealltwriaeth arnoch o bwy yw eich rhanddeiliaid a'u buddion. Bydd hyn yn eich helpu chi i weld sut maent yn debygol o gael eu heffeithio gan y fenter a sut maent yn debygol o ymateb i gyhoeddi gweledigaeth sefydliadol newydd.
Daw cydsyniad pan mae rhanddeiliaid yn deall pam bod angen y newid a rhaid cefnogi hyn gyda thystiolaeth sy'n dangos, nid yn unig yr angen ond sydd hefyd yn dangos cefnogaeth tuag at y dull yr ydych yn ei gymryd.
Wrth gwrs, mae adborth a mewnbwn at y newid yn allweddol – ffafrir cynhwysiant dros gosb, ac efallai fod nifer o agweddau ar y modus operandi cyfredol yn gweithio ac y dylid parhau â nhw neu eu mewnosod gyda'r ffordd newydd ymlaen. Yn aml, dim ond y rheini sy'n agos at hyn sy'n gallu gweld y ffordd orau o wneud hynny – arsylwi, cwestiynu, gwrando ac addasu gyda'r ffordd ffres hon o feddwl.
Mae'r bygythiad o newid yn cyflwyno cyfleoedd, ond gall gyflwyno ofnau ar gyfer y rheini yr effeithir arnynt a all amlygu eu hunain ar ffurf ymddygiad amddiffynnol, ansicrwydd, a gwrthwynebiad y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef yn gyflym, yn onest ac yn empathetig. Os oes unrhyw ganlyniadau i'r fenter y gall rhai rhanddeiliaid eu hystyried yn 'ddrwg', ni ddylid eu cuddio rhagddynt – mae eglurdeb yn allweddol ar bob cam.
Gall yr amser a gymerir i gyflawni budd o'r newid yn dilyn ei weithredu, a'i fewnosod yn ddi-drafferth, fod yn hirach na'r hyn mae rhanddeiliaid yn ei ddisgwyl. Felly, pwysig yw bod yn realistig gyda hyn, a chynllunio ar gyfer yr effaith bosibl, a'i chyfathrebu, yn ogystal â'r hyn y gellir ei ddisgwyl yn ystod y trawsnewid.
Ar nodyn cadarnhaol, gellir gwneud rhai pethau heb fod angen cydsyniad lefel uchel gan fod modd gwneud pethau oherwydd bod tîm yn symud ymlaen yn sgil angen brys. Taflwch oleuni ar y mentrau hyn fel enghreifftiau o bŵer gweithredu ymreolaethol wedi'i rymuso ar lefel leol.