Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol
Gweithio hybrid: cynllunio ar gyfer y dyfodol

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7.3 Beth sydd ei angen arnoch chi i ddatblygu'r cynllun?

Ar ôl cael cymeradwyaeth weithredol i fynd ymlaen gyda'r rhaglen o newid, yn dilyn llywodraethiant ffurfiol sydd yn aml ynghlwm â rhaglenni strategol fel hyn, gellir dechrau gweithredu'r fenter.

Os caiff ei chymeradwyo, beth yw'r cam nesaf? Daw hyn â ni'n ôl at gam pump o broses datblygu strategaeth Sola a Couturier, sef Managing Execution, sy'n cynnwys cyflawni:

  • a.Rhagamodau sy'n paratoi'r sail ar gyfer newid (dealltwriaeth gyffredin o'r angen am newid, delwedd glir o le all y sefydliad fod o ganlyniad i'r newid, a chyfathrebu eglur y mentrau strategol sydd ynghlwm â'r rhaglen newid);
  • b.Ysgogiadau sy'n gwneud i'r newid ddigwydd (sy'n lansio ac yn lledaenu'r newid, gan gynnwys stori afaelgar); ac
  • c.Anogwyr sy'n cyflymu'r gyfradd newid (drwy adnabod anogwyr, a'u defnyddio, sbarduno newidiadau yn yr amgylchedd, datblygu gallu drwy hyfforddiant, a chyfoethogi mecanweithiau).

(Sola a Couturier, 2014)

Ceir amlinelliad o'r rhain, a rhagor, yn Hybrid working: change management - OpenLearn - Open University [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Gweithgaredd 25 Datblygu'ch cynllun

Timing: 15 munud

Myfyriwch ar y problemau yr ydych wedi'u harchwilio drwy gydol y cwrs hwn, a sut allech chi eu datblygu.

Yn gynharach yn y cwrs, clywsoch gan gyfranogwyr yn rhannu eu profiadau o gynllunio ar gyfer newidiadau brys a hirdymor. Wrth i chi gynllunio ar gyfer y dyfodol, tynnwch ar eich profiadau eich hun i'ch helpu chi i ystyried y byd o bersbectifau gwahanol.

Pan gaiff opsiwn/opsiynau eu cymeradwyo, er mwyn dechrau rhaglen o newid, y cam nesaf yw deall pwy a beth fydd eu hangen i ddatblygu'r opsiwn ymhellach. Treuliwch ychydig o amser yn casglu'ch syniadau ynghylch hyn.

Efallai yr hoffech wneud ychydig o nodiadau yn y blwch isod yn canolbwyntio ar adnoddau a gwersi a ddysgoch o'r cwrs er mwyn i chi allu eu mewnosod yn eich gwaith, neu eu harchwilio'n fwy manwl yn ddiweddarach.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).